Diffodd 3G a 2G

Cyhoeddwyd: 27 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 29 Mai 2026

Mae rhwydweithiau symudol 3G bellach wedi'u diffodd. Mae darparwyr rhwydwaith symudol y DU yn diffodd eu rhwydweithiau 2G yn raddol dros y blynyddoedd nesaf. Byddwn yn cyhoeddi ein gwybodaeth a'n cyngor i’r diwydiant yma.

Beth sy'n digwydd?

Cadarnhaodd gweithredwyr rhwydwaith symudol y DU (MNOs) i Lywodraeth y DU y byddant yn diffodd rhwydweithiau symudol 2G a 3G i gefnogi'r gwaith o gyflwyno rhwydweithiau 4G a 5G, a fydd yn cynnig gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy i gwsmeriaid. Mae'r gweithredwyr yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain ar amseru a phroses y diffoddiadau.

Mae rhwydweithiau 3G yn y DU bellach wedi'u diffodd: mae Vodafone, EE, Three ac O2 (MNOs y DU) i gyd wedi diffodd eu rhwydweithiau 3G.

Mae EE wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau diffodd ei rwydwaith 2G ym mis Mai 2029.

Mae VodafoneThree wedi cyhoeddi y bydd yn diffodd rhwydwaith 2G Vodafone yn y DU yn ystod 2030 (nid oes gan Three rwydwaith 2G).

Mae O2 wedi cyhoeddi y bydd yn dechrau diffodd ei rwydwaith 2G yn ystod haf 2029. (Dechreuodd O2 dynnu'n ôl mynediad gwasanaethau crwydro o dramor i'w rwydwaith 2G o 1 Hydref 2025.)

Bydd hyn yn effeithio ar gwsmeriaid sy'n defnyddio dyfeisiau a gwasanaethau symudol hŷn - mae gan y rhan fwyaf o gwsmeriaid ddyfeisiau 4G (a 5G yn gynyddol) eisoes ac ni fydd hyn yn effeithio ar eu gwasanaethau.

Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd y Llywodraeth y DU siarter diffodd 2G wirfoddol, sy'n nodi ymrwymiadau gan MNOs i gefnogi proses bontio ddidrafferth oddi wrth wasanaethau 2G.

Ein rôl a'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan ddarparwyr symudol

Tra bod yr MNOs yn gyfrifol am amseru'r diffodd, rydyn ni am sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg ac yn gallu parhau i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi nodi sut rydym yn disgwyl i MNOs fynd ati i ddiffodd eu gwasanaethau yn y ddogfen ganlynol. Mae'r ddogfen hon hefyd yn nodi'r gofynion rheoleiddiol perthnasol y bydd angen i ddarparwyr eu bodloni yn ystod y broses hon.

Diffodd 3G a 2G: Ein disgwyliadau o ddarparwyr symudol (PDF, 284.4 KB)

Diffodd 3G a 2G: Ein disgwyliadau o ran darparwyr symudol (PDF, 301.6 KB)

We have made a correction to a typographical error in footnote 25 of the 3G and 2G switch-off: Our expectations of mobile providers document.