Cysylltu’r Gwledydd - Osodiadau Rhwydwaith Cynlluniedig

Cyhoeddwyd: 17 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 8 Mai 2025

Cefndir i'n Hadroddiad Lleoli Rhwydwaith Cynlluniedig 

Mae ein hadroddiad diweddaraf sy'n edrych tua'r dyfodol am leoliadau rhwydwaith a gynlluniwyd yn archwilio'r cynnydd mewn darpariaeth rhwydwaith ffibr llawn a gigabit a ragwelir erbyn diwedd 2027. Mae hefyd yn ymdrin â chynlluniau gweithredwyr rhwydweithiau mynediad diwifr sefydlog i ymestyn neu uwchraddio eu rhwydweithiau er mwyn darparu gwasanaethau band eang cyflym iawn. 

Mae'r adroddiad yn seiliedig ar gynlluniau lleoli datganedig darparwyr cyfathrebu o fis Ionawr 2025 hyd at dair blynedd. Mae'r cynlluniau'n cynnwys y rhai a ariennir yn breifat yn ogystal ag unrhyw gynlluniau a gefnogir trwy arian cyhoeddus neu ymyrraeth. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ddefnyddiau arfaethedig gweithredwyr rhwydwaith yn unig ac nid yw'n ystyried unrhyw ddyheadau neu gynlluniau gan awdurdodau cyhoeddus, boed yn genedlaethol neu'n lleol, i gyflwyno rhwydweithiau yn eu hardaloedd daearyddol. 

Mae adroddiad Ofcom yn cael ei baratoi a'i gyhoeddi i ategu ein hadroddiadau seilwaith (a elwir yn adroddiadau ein Gwledydd Cysylltiedig). Nodir sail a phwrpas yr adroddiad hwn isod ac maent yn darparu cyd-destun pwysig i'r wybodaeth a gyhoeddir gennym.

Diben yr adroddiad hwn sy’n edrych tua’r dyfodol 

Un o'r materion rhwydweithiau cyfathrebu electronig y mae'n rhaid i Ofcom ymdrin â nhw yn ein hadroddiadau seilwaith erbyn hyn (sef ein hadroddiadau Cysylltu'r Gwledydd) a baratoir o dan adran 134A o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (Deddf 2003), yw unrhyw gynigion gan Ddarparwyr Gwasanaethau Cyfathrebu (CP) i adeiladu rhwydweithiau yn y dyfodol. 

Yn benodol, mae hyn yn golygu bod angen i Ofcom adrodd ar y cynigion y gallai darparwyr rhwydwaith cyfathrebu electronig yn y DU eu cael ar unrhyw adeg yn ystod y 3 blynedd nesaf i roi rhwydwaith capasiti uchel iawn newydd (VHCN) [1] ar waith, ac eithrio rhwydwaith symudol, neu i ymestyn neu uwchraddio unrhyw ran o rwydwaith llinell sefydlog neu’r hyn sy’n gyfwerth, fel rhwydwaith mynediad di-wifr sefydlog, er mwyn darparu cyflymder lawrlwytho o 100 megabit yr eiliad (Mbit/e) o leiaf [2].

Mae'r cynlluniau hyn yn fasnachol sensitif, gan gyfyngu ar faint o wybodaeth rydym yn ei gyhoeddi

Oherwydd eu natur, mae cynigion o’r fath sy’n cynnwys cynlluniau adeiladu manwl ar gyfer gweithredwyr rhwydwaith y gellir eu hadnabod yn gyfrinachol ac yn hynod sensitif yn fasnachol ac, o’r herwydd, bydd Ofcom yn eithrio gwybodaeth benodol o’r fath o’r adroddiadau Cysylltu’r Gwledydd a gyhoeddir gennym.
 
Fodd bynnag, yn unol ag adran 134AC(1) o Ddeddf 2003, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol roi sylw i’n hadroddiadau seilwaith a dderbynnir gan Ofcom o dan adran 134A at dri diben, sef dyrannu arian cyhoeddus ar gyfer gweithredu rhwydweithiau cyfathrebu electronig; dylunio cynlluniau band eang cenedlaethol; a dilysu a yw gwasanaethau ar gael y mae amodau gwasanaeth cyffredinol yn berthnasol iddynt.

Am y rhesymau hynny, ac yn gyson â’n hadroddiad blaenorol, y dull rydym wedi’i ddefnyddio i baratoi a chyhoeddi’r adroddiad Cysylltu’r Gwledydd atodol hwn yw cynnwys, o fewn ei brif gorff i’w gyhoeddi, y cynigion adeiladu cyffredinol wedi’u cydgrynhoi a’u gwneud yn ddienw ar gyfer pob un o’r awdurdodau lleol a rhanbarthol yn y DU, ynghyd â’n canfyddiadau lefel uchel.

Rydym hefyd wedi paratoi atodiad cyfrinachol i’r adroddiad hwn sy’n cynnwys manylion llawn data penodol am ddarpariaeth gweithredwyr ac eiddo sydd wedi cael ei anfon at yr Ysgrifennydd Gwladol. Ni fydd yr atodiad hwn yn cael ei gyhoeddi.

Cynlluniau yn debygol o newid

Mae’r data a gyflwynir yn cynrychioli rhagfynegiad y darparwyr eu hunain o’r ddarpariaeth, sy’n dibynnu ar y gwaith adeiladu sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae cynlluniau gosod gweithredwyr, ni waeth pa mor ddatblygedig ac ymrwymedig ydynt, yn gallu newid [3]. Ni ellir ystyried y ffigurau a nodir yn yr adroddiad hwn yn gynhwysfawr nac yn derfynol.  

Troednodiadau

Yn ôl i'r brig