Rydym wedi lansio papur trafod ar sut rydyn ni'n meddwl y dylai cysylltedd symudol da edrych a sut i'w wella.
Mae cysylltedd symudol bellach yn sail i'r ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio, ac yn teithio – ond yn y DU yn rhy aml, nid yw'n ddigon da. Mae cysylltedd symudol gwell yn hanfodol i gefnogi twf economaidd a galluogi cynhwysiant digidol.
Mae'r papur trafod hwn yn nodi sut rydyn ni'n meddwl y dylai cysylltedd symudol da edrych i bobl a busnesau, pam mae'r ddarpariaeth bresennol yn methu, a’r hyn sydd angen newid i ddarparu cysylltedd da a dibynadwy ledled y DU. Rydym yn egluro sut mae newidiadau diweddar yn y farchnad yn debygol o helpu, a lle y gallai fod angen camau gweithredu pellach.
Mae cysylltedd symudol da a dibynadwy yn galw am ymdrech genedlaethol, gyda diwydiant, llywodraeth, awdurdodau lleol, landlordiaid ac eraill yn chwarae eu rhan.
Bydd y papur yn sail i'n hymgysylltiad gyda rhanddeiliaid. Byddwn yn defnyddio ymatebion i'r papur trafod hwn ac adborth gan randdeiliaid i dargedu ein gwaith i gefnogi gwelliannau mewn cysylltedd symudol ledled y DU.
Byddwn yn darparu diweddariad yn gynnar yn 2027, gan nodi'r hyn yr ydym wedi'i ddysgu a sut y bydd yn llunio ein blaenoriaethau a'n camau nesaf.
Ymateb i'r papur trafod hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb erbyn 5pm, 29 Gorffennaf 2026 fan bellaf.
Ymchwil ansoddol ar brofiadau defnyddwyr a dealltwriaeth o ansawdd rhwydwaith symudol
Astudiaeth Mesur am Gysylltedd ar Drenau
Cynnwys cysylltiedig