Diweddariad 16 Mawrth 2026
Yn dilyn diwedd ymrwymiadau presennol, ac ystyriaethau ynghylch y ffordd orau o ddiogelu cwsmeriaid llinell dir yn unig BT, gwnaeth BT gadarnhau y bydd y grŵp yma o gwsmeriaid yn derbyn cynnydd o £1 y mis ar eu rhent llinell, heb unrhyw gynnydd mewn costau galwad, o 31 Mawrth 2026 am gyfnod o 12 mis.
Mae gan gwsmeriaid llinell dir yn unig, wasanaeth ffôn llinell dir gyda BT ond nid oes ganddynt fand eang gyda BT neu unrhyw ddarparwr arall. Dros amser mae maint y grŵp hwn o gwsmeriaid yn lleihau. Wrth i rwydweithiau foderneiddio, yn y pen draw rydym yn disgwyl y bydd yr holl wasanaethau llinell dir yn cael eu darparu dros wasanaeth band eang.
Er bod y grŵp hwn o gwsmeriaid yn lleihau, yn bennaf mae'n tueddu i gynnwys cwsmeriaid hŷn nad ydynt yn newid darparwr mor aml â grwpiau cwsmeriaid iau. Rydym yn disgwyl i BT barhau i ystyried hyn wrth osod prisiau ar gyfer y cwsmeriaid hyn yn y dyfodol ac rydym yn bwriadu monitro prisiau BT ar gyfer cwsmeriaid llinell dir yn unig, fel rhan o'n monitro rheolaidd o brisiau defnyddwyr.
Rydym yn annog cwsmeriaid sy'n agored i niwed ariannol ar fudd-daliadau prawf modd i wirio a ydynt yn gymwys i gael tariff cymdeithasol. Mae BT yn cynnig tariff cymdeithasol o £10 y mis, ar gyfer llinell dir yn unig i gwsmeriaid cymwys, a allai fod yn fwy cost-effeithiol na'r tariff llinell dir yn unig. Mae darparwyr telathrebu, gan gynnwys BT, wedi ymrwymo i sicrhau bod tariffau cymdeithasol yn hawdd dod o hyd iddynt a'u cyfeirio at gwsmeriaid cymwys fel rhan o Siarter Defnyddwyr Telathrebu Llywodraeth y DU.
Mae'r pandemig coronafeirws parhaus (Covid-19) yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd cynyddol gwasanaethau telathrebu. Mae hyn yn arbennig o wir am nifer fach o gwsmeriaid sydd, bellach yn fwy nag erioed, yn dibynnu ar eu ffôn llinell dir i wneud galwadau. Yn 2020, roedd 1.1m o gwsmeriaid llinell dir yn unig llais yn unig ac mae dros 75% o'r cwsmeriaid hyn yn cael eu gwasanaeth oddi wrth BT.
Ers mis Ebrill 2018, mae'r prisiau mae'r cwsmeriaid hyn yn eu talu am eu gwasanaeth llais yn unig wedi'u diogelu gan ymrwymiadau gwirfoddol BT. Daw'r ymrwymiadau hyn i ben ar 31 Mawrth 2021 ac rydym bellach wedi derbyn cynnig newydd gan BT o ymrwymiadau gwirfoddol pellach i sicrhau amddiffyniadau parhaus i'w gwsmeriaid llais yn unig tan fis Mawrth 2026.
Mae'r datganiad hwn yn nodi'r ymatebion a gawsom i'n cynigion ym mis Rhagfyr a'n penderfyniad i dderbyn ymrwymiadau pellach BT.