
Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi'r tablau cynghrair diweddaraf ar y cwynion rydym yn eu derbyn am brif gwmnïau ffôn cartref, band eang, gwasanaethau symudol a theledu-drwy-dalu y DU.
Mae'r adroddiad chwarterol yn datgelu nifer y cwynion a wnaed i Ofcom rhwng misoedd Gorffennaf a Medi y llynedd ac yn dangos bod cwynion yn gyffredinol ar eu lefelau isaf erioed.
Gwelodd tri o'r pedwar sector - band eang, llinell dir a theledu-drwy-dalu - i gyd ostyngiad yn nifer y cwynion yn y chwarter hwn, gyda bron pob darparwr yn gweld gwelliant yn eu ffigurau. Yn achos symudol talu'n fisol, roedd cwynion ar yr un lefel hanesyddol isel â'r chwarter diwethaf.
Cynhyrchodd TalkTalk a Shell Energy y nifer uchaf o gwynion ar gyfer band eang, yn bennaf o ganlyniad i ddiffygion a phroblemau gwasanaeth.
TalkTalk hefyd oedd y darparwr llinell dir y cwynwyd fwyaf amdanynt, a denodd EE a Sky y nifer isaf o gwynion am fand eang a llinell dir.
iD Mobile, Vodafone a Virgin Mobile oedd y gweithredwyr symudol y cwynwyd fwyaf amdanynt, a chynhyrchodd Virgin Media y nifer uchaf o gwynion am deledu-drwy-dalu. Y prif reswm dros gwynion gan gwsmeriaid i Ofcom oedd y ffordd y mae'r cwmnïau hyn yn trin eu cwynion.
Denodd EE, Tesco Mobile a Sky y nifer isaf o gwynion yn y sector symudol, a Sky oedd y darparwr teledu-drwy-dalu y cwynwyd leiaf amdano.
Mae cwynion wedi cwympo i'r lefel isaf erioed, ac rydym yn disgwyl i ddarparwyr ddal ati i gyflawni'r safonau uchaf. Os ydych yn anfodlon â'ch darparwr, mae'n werth siopa o gwmpas.
Rydym wedi'i gwneud yn haws nag erioed i newid darparwr, a gallech gael gwell gwasanaeth i gwsmeriaid yn ogystal ag arbed arian.
Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom
Mae'r wybodaeth a gyhoeddwn am gwynion yn helpu pobl i gymharu cwmnïau wrth siopa o gwmpas am ddarparwr newydd ac yn annog cwmnïau i wella'u perfformiad. Mae ein hyb ansawdd gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth bellach ar sut y gall pobl ddewis y darparwr sydd orau iddynt.
Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i ddefnyddwyr, ac mae'r wybodaeth a dderbyniwn yn gallu arwain at lansio ymchwiliadau.
Dylai unrhyw un sy'n cael problemau gwyno i'w darparwr yn y lle cyntaf. Os ydynt yn anfodlon ar y canlyniad, gall pobl fynd â'r gŵyn at ombwdsmon annibynnol, a fydd yn archwilio'r achos ac yn gwneud dyfarniad arno.
Cwynion am fand eang fesul 100,000 o gwsmeriaid

Cwynion am llinell dir cartref fesul 100,000 o gwsmeriaid


Cwynion am symudol talu'n fisol fesul 100,000 o gwsmeriaid


Cwynion am deledu-drwy-dalu fesul 100,000 o gwsmeriaid


Maint cymharol o gwynion fesul gwasanaeth i bob 100,000 o danysgrifwyr
