Adroddiad: Cwynion am wasanaethau band eang, llinell dir, symudol a theledu-drwy-dalu

Cyhoeddwyd: 25 Ionawr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 23 Gorffennaf 2026

Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU, mae Ofcom yn derbyn cwynion gan gwsmeriaid am wasanaethau eu llinell dir, band eang sefydlog, ffôn symudol talu’n fisol a theledu-drwy-dalu.

Er mwyn deall  y rhesymau dros anfodlonrwydd ymhlith cwsmeriaid preswyl yn ein sectorau yn well, rydym yn casglu'r data hwnnw ac yn pennu nifer y cwynion a dderbynnir, a hynny yn ôl darparwr ac yn ôl gwasanaeth. Er mwyn cymharu perfformiad darparwyr, bob chwarter, rydym yn cyhoeddi nifer y cwynion a dderbyniwyd amdanynt mewn perthynas â maint eu seiliau cwsmeriaid (h.y. fesul 100,000 o gwsmeriaid).

Tueddiadau cyffredinol

Yn y chwarter rhwng Ionawr a Mawrth (Ch1 2026), gostyngodd y nifer o gŵynion i Ofcom o'i gymharu â'r chwarter blaenorol (Ch4 2025: Hydref i Ragfyr 2025). Gwnaeth cwynion am fand eang sefydlog a gwasanaethau symudol talu-misol leihau, ac arhosodd nifer y cwynion am wasanaethau llinell dir a theledu-trwy-dalu yr un fath. 

  • TalkTalk oedd y darparwr band eang sefydlog y cwynwyd amdano fwyaf. Arhosodd cwynion am TalkTalk ar lefelau tebyg i'r chwarter blaenorol.
  • Plusnet a Sky a gafodd y nifer lleiaf o cwynion am fand eang sefydlog.
  • Plusnet a TalkTalk a gafodd y nifer mwyaf o gŵynion am wasanaethau llinell dir. Gwelodd Plusnet a TalkTalk gynnydd yn eu cwynion fesul 100,000 o danysgrifwyr o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.
  • EE, Sky, Utility Warehouse, Virgin Media a Vodafone oedd y darparwyr llinell dir y cwynwyd amdanynt leiaf.
  • Sky Mobile oedd y darparwr symudol talu-misol a gafodd y nifer mwyaf o gŵynion. Roedd cwynion cwsmeriaid yn cael eu gyrru'n bennaf gan eu profiadau o newid darparwr.
  • Cafwyd y nifer lleiaf o gŵynion am EE, Giffgaff, Tesco Mobile, Three a Vodafone o ran gwasanaethau symudol talu-misol.
  • EE a Virgin Media oedd y darparwyr teledu-trwy-dalu a gafodd y nifer mwyaf o gŵynion. Roedd cynion y cwsmeriaid yn cwyno’n bennaf am sut y cafodd eu cwynion eu trin (EE) a phroblemau gyda bilio, prisio a thaliadau (Virgin Media).
  • Y ddarparwyr teledu-trwy-dalu a gafodd y nifer lleiaf o gŵynion oedd Sky a TalkTalk.

Gweler isod am wybodaeth am gymharu nifer y cwynion am ddarparwyr penodol. Mae ein dogfen gefndir a methodolegdad yn cynnwys mwy o fanylion.

Mae'r siart isod yn dangos y nifer gymharol o gŵynion yr ydym wedi'u derbyn am wasanaethau band eang, llinell dir, ffôn symudol talu’n fisol a theledu-drwy-dalu. Gallwch ddefnyddio'r llithrydd i hidlo yn ôl blwyddyn.

Nifer cymharol y cwynion fesul 100,000 o gwsmeriaid

Gan ddefnyddio cymhariaeth o un flwyddyn i’r llall, mae swm cymharol y cwynion am wasanaethau band eang sefydlog, llinell dir, ffonau symudol talu’n fisol a theledu trwy dalu wedi gostwng.

I gael y profiad gorau, ehangwch i sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde ar y gwaelod).

Tablau Cynghrair a Chwynion Allweddol

Band eang sefydlog

Llinell dir

Symudol talu'n fisol

Teledu-drwy-dalu

Cwynion cymharol am bob 100,000 o gwsmeriaid

Lle mae'r gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer y cwynion darparwyr fesul 100,000 o gwsmeriaid yn llai nag 1, rydym yn ystyried bod eu canlyniadau’n gymharol. O fewn y sectorau canlynol, rydym o'r farn bod y darparwyr rhestredig yn gymharol:

Band Eang Sefydlog:

  1. Plusnet a Sky;
  2. Sky, Virgin Media, EE a Chyfartaledd y Diwydiant;
  3. Cyfartaledd y Diwydiant a BT;
  4. BT a Vodafone.

Llinell dir:

  1. Vodafone, Sky, Virgin Media, Utility Waregouse ac EE;
  2. Virgin Media, Utility Wahrehouse, EE a Chyfartaledd y Diwydiant;
  3. NOW Broadband a BT;
  4. TalkTalk a Plusnet.

Symudol Talu-Misol:

  1. EE, Giffgaff, Vodafone, Three, Tesco Mobile a Chyfartaledd y Diwydiant;
  2. Cyfartaledd y Diwydiant, O2 ac iD Mobile.

Teledu-trwy-dalu:

  1. TalkTalk a Sky;
  2. Sky, Cyfartlaedd y Diwydiant a Virgin Media;
  3. Virgin Media ac EE.

Cwynion cyffredinol yn ôl sector

Mae’r siart isod yn dangos cwynion am bob darparwr ym mhob un o’r pedwar sector.  

I gael y profiad gorau, ehangwch i sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde ar y gwaelod).

Cymharu gwahanol ddarparwyr

I gymharu perfformiad dau neu fwy o ddarparwyr, dewiswch y gwasanaeth ac yna'r darparwyr rydych chi am eu cymharu o'r rhestrau ar y dde.

I gael y profiad gorau, ehangwch i sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde ar y gwaelod).

Cwynion yn ôl darparwr

I gymharu perfformiad dau neu fwy o ddarparwyr, dewiswch y gwasanaeth ac yna'r darparwyr rydych chi am eu cymharu o'r rhestrau ar y dde.

I gael y profiad gorau, ehangwch i sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde ar y gwaelod).

Rate this page

Was this page helpful?