Rhestr wirio ar gyfer contract ffôn neu fand eang newydd

Cyhoeddwyd: 22 Ionawr 2014
Diweddarwyd diwethaf: 26 Mehefin 2026

Os ydych chi'n gwsmer busnes bach neu breswyl (10 gweithiwr neu lai) ac yn meddwl cofrestru i fargen ffôn neu band eang newydd, mae ychydig o bethau i chi eu hystyried yn gyntaf. Mae cyngor penodol i gwsmeriaid busnes ar y dudalen Cytundebau hon.

Dw i eisiau cael cytundeb ffôn a band eang: beth yw fy hawliau?

  • Mae rhai contractau’n cael eu cynnig ar sail dreigl lle gallwch ganslo o fis i fis, tra bo eraill yn eich clymu am 12, 18 neu 24 mis. Dylech bob amser ganfod am faint yr ydych wedi’ch clymu ac ystyried am ba hyd yr hoffech chi gael eich clymu?
  • Fel defnyddiwr (mae rheolau gwahanol yn berthnasol i fusnesau) ni ddylai’ch contract ar gyfer eich gwasanaeth telegyfathrebu fod yn fwy na 24 mis. Mae rhai contractau ar gyfer ffonau symudol yn gallu bod yn hirach. Felly mae’n bwysig ystyried y telerau ar gyfer y ffôn ei hun yn ogystal â'r amser ar yr awyr.
  • Os ydych chi’n cofrestru am gontract 12, 18 neu 24 mis, bydd rhaid talu fel arfer i ymadael yn gynnar â'r contract. Ni ddylai’r taliadau hyn, sef ‘taliadau ymadael yn gynnar’, fod yn fwy na’r taliadau sydd ar ôl ar y contract (ac mewn rhai achosion gallent fod yn llawer llai).

A yw'r pris misol yn sefydlog neu a fydd yn cynyddu yn ystod y contract?

Mae'r pris rydych chi'n ei dalu bob mis yn debygol o fod yn un o'r ffactorau pwysicaf i’w hystyried wrth ddewis contract. Efallai y bydd:

  • un pris misol sefydlog am gyfnod llawn y contract e.e. £20 y mis am 24 mis: neu
  • pris misol sy'n dechrau ar un pris ac yna'n cynyddu ar ddyddiad penodedig, e.e. £10 y mis tan 31 Mawrth 2027 ac yna £15 y mis ar 1 Ebrill 2027.  

Ni waeth pa fath o gontract ydyw, dylai nodi’r swm y byddwch chi'n ei dalu bob mis yn glir. Os nad ydych chi'n siŵr beth rydych chi'n cytuno iddo, neu os ydych chi'n anghyfforddus gyda'r math o gontract sy'n cael ei gynnig, peidiwch â chytuno iddo.

Os yw'ch darparwr yn cynyddu'r prisiau rydych chi'n eu talu y tu hwnt i'r hyn y gwnaethoch gytuno pan wnaethoch chi gytuno i’r contract, rhaid iddo roi o leiaf mis o rybudd i chi a hawl i adael y contract heb gosb.

Mae gan rai darparwyr gontractau sy'n nodi y bydd y prisiau misol rydych chi'n eu talu yn cynyddu ar adegau penodol yn ystod y contract. Dylid gwneud hyn yn glir i chi wrth werthu’r contract i chi. Rhaid i ddarparwyr nodi’n glir, mewn punnoedd a cheiniogau, beth fyddwch chi'n ei dalu ar ôl i’r prisiau gynyddu, a nodi’n glir pryd y bydd prisiau hynny'n cynyddu.Mae hyn yn cael ei gwmpasu yn ein Canllawiau ar ofynion contract. Os cafodd hyn ei wneud yn glir ar y pwynt y gwnaethoch gytuno i'r contract, ni fydd gennych yr hawl i adael heb gosb pan fydd y cynnydd yn digwydd.

  • Beth yn union ydych chi’n ei gael am eich arian? Ydy'r contract yn cynnwys lwfans defnyddio a beth ydy’r gost os ydych chi’n mynd drosto?
  • A oes unrhyw gostau ychwanegol - e.e. am filiau papur, am wasanaeth adnabod y galwr, am adalw negeseuon llais, neu am wneud taliad drwy ddull heblaw debyd uniongyrchol?
  • Beth sy'n digwydd os oes nam neu broblem â'r gwasanaeth? Oes cyfnodau wedi’u gwarantu ar gyfer trwsio? A oes iawndal a/neu ddulliau eraill o ddigolledu ar gael? Oes rhaid talu i beiriannydd ymweld? Pryd a faint?

Ffordd dda o gael gwybod pa fargeinion sydd ar gael yw edrych ar y safleoedd cymharu prisiau sydd wedi’u hachredu gan Ofcom.

Rydym wedi rhoi gwybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd am y prif gwestiynau a all fod gennych i’ch helpu chi i ddewis darparwr. Mae’n cynnwys gwybodaeth am gwynion cwsmeriaid i ddarparwyr a’r cyfraddau bodlonrwydd cyffredinol.

Yn ogystal â rhoi gwybod i chi y pris(iau) misol rydych yn cytuno i’w dalu, dylai darparwyr hefyd roi’r canlynol i chi:

  • disgrifiad o’r gwasanaeth;
  • y prif daliadau;
  • telerau talu;
  • eich hawl i ganslo, a’r drefn ar gyfer canslo;
  • y dyddiad y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu (pan nad yw’n cael ei ddarparu’n syth); a
  • unrhyw gyfnod contract sylfaenol. Rhaid i’r wybodaeth yma gael ei darparu i chi yn glir ar bapur, er enghraifft mewn llythyr neu e-bost. Os ydych chi’n ymrwymo i gontract yn ystod galwad gwerthu, yn ogystal â rhoi'r wybodaeth hon dros y ffôn, rhaid i'ch darparwr anfon yr wybodaeth hon atoch chi mewn da bryd ar ôl yr alwad (er enghraifft drwy e-bost neu lythyr).

Pan fyddwch chi’n prynu gwasanaeth band eang, fe ddylech chi gael rhywfaint o wybodaeth bwysig heb orfod gofyn amdani. Fe ddylech chi gael amcangyfrif o’r cyflymder rydych chi’n debygol o’i dderbyn ar adegau prysur, pan fydd y cyflymderau cyfartalog yn aml yn is. Mae’r adegau prysur hyn rhwng 8 a 10pm ar gyfer gwasanaethau cartref a rhwng 12 a 2pm ar gyfer gwasanaethau busnes. Dylai eich darparwr bob amser ddarparu isafswm cyflymder wedi’i warantu i chi ar gyfer eich gwasanaeth band eang.

Os ydych chi’n teimlo nad yw darparwr wedi rhoi gwybod i chi mewn ffordd briodol am newid i’ch contract neu fod contract wedi’i gamwerthu i chi, dylech gysylltu â’i adran gwasanaeth i gwsmeriaid a chwyno’n ffurfiol. Dylech chi bob amser ofyn am rif cyfeirnod wrth wneud cwyn.

Os na fyddwch chi wedi datrys y mater gyda'r darparwr ar ôl wyth wythnos (neu cyn hynny os cyrhaeddir sefyllfa ddiddatrys), efallai fod yr hawl  gennych i fynd â'ch achos at gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR).

Rhaid i'r darparwr roi gwybod i chi pa gynllun mae’n aelod ohono, neu gallwch ddefnyddio ein gwiriwr ADR

Gallwch hefyd gysylltu ag Ofcom . Mae data am gwynion yn ein helpu i dargedu ein gwaith gorfodi yn erbyn cwmnïau nad ydynt o bosibl yn cydymffurfio â’n rheolau