
Heddiw, cyhoeddwyd bod cytundeb wedi’i wneud i BT Group gaffael TalkTalk Group.
Os ydych chi'n gwsmer TalkTalk, byddwch chi'n dod yn gwsmer BT ar ôl i’r broses werthu gwblhau. Dylech allu parhau i ddefnyddio eich llinell dir, eich band eang a’ch teledu-trwy-dalu fel arfer yn ystod y cyfnod pontio hwn a thu hwnt.
Bydd Ofcom yn parhau i gyflawni ein rôl wrth ddiogelu defnyddwyr. Byddwn yn cadw llygad agos ar y broses bontio hon i sicrhau bod buddiannau defnyddwyr yn cael eu diogelu, ac rydym mewn cysylltiad â BT i danlinellu ein disgwyliadau.
Os ydych chi’n ystyried newid i ddarparwr gwahanol, bydd angen i chi weld a ydych chi tu mewn neu allan o gontract. Os byddwch chi’n newid cyn diwedd cyfnod gofynnol eich contract, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau terfynu cynnar. Am gyngor ar sut i newid, edrychwch ar ein hwb defnyddwyr.
Cynnwys cysylltiedig