Awgrymiadau arbed arian ar gyfer ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu

Cyhoeddwyd: 25 Awst 2026
Diweddarwyd diwethaf: 24 Awst 2026

Dilynwch y deg cam hyn i arbed arian

  1. Gwiriwch os ydych chi mewn contract
  2. Os ydych chi allan o gontract - siopa o gwmpas
  3. Bwndelu eich gwasanaethau i wneud arbedion
  4. Ddim yn defnyddio'r gwasanaeth ffrydio? Canslwch ef
  5. Peidiwch â thalu am fwy nag sydd ei angen arnoch
  6. Edrychwch ar fargeinion SIM yn unig
  7. Cadwch lygad ar gostau galwadau
  8. Mynd ar wyliau? Gwiriwch y ffioedd crwydro cyn i chi fynd
  9. Cyfnewid eich hen git
  10. Cymorth os ydych chi'n cael trafferth talu

Gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael tariff cymdeithasol

Os ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau eraill, efallai y byddwch yn gymwys i gael tariff cymdeithasol. Mae hwn yn fargen band eang neu ffôn rhatach, heb unrhyw godiadau prisiau canol contract, i bobl ar incwm is. Edrychwch ar ein canllaw tariff cymdeithasol.

  1. Gwiriwch a ydych chi mewn contract

Edrychwch ar fanylion eich cyfrif ar wefan neu ap eich darparwr, neu gofynnwch iddynt. Mae eich contract fel arfer yn eich rhwymo  am 12, 18 neu 24 mis a gallai gadael yn gynnar i gael bargen well olygu bod yn rhaid i chi dalu ffi ymadael.

Siaradwch â darparwyr eraill, hyd yn oed os ydych chi'n dal mewn contract. Efallai y byddant yn rhoi arian i chi tuag at eich ffi ymadael os byddwch chi'n newid iddyn nhw.

  2. Os ydych chi allan o gontract - edrychwch o gwmpas

Newidiwch i fargen well gyda darparwr newydd, neu siaradwch â'ch darparwr presennol i weld beth allant ei gynnig. Os ydych chi allan o gontract, efallai y byddwch chi'n talu mwy nag sydd  angen.

Defnyddiwch Mapio eich ffôn symudol i wirio darpariaeth a pherfformiad gwahanol rwydweithiau symudol yn eich ardal.

Defnyddiwch ein gwiriwr band eang i weld pa gyflymderau band eang sydd ar gael lle rydych chi'n byw.

Ac edrychwch ar wefannau cymharu prisiau i'ch helpu i ddod o hyd i fargen sy'n diwallu eich anghenion. Gall darparwyr llai bod yn rhatach weithiau, felly cymharwch yr holl fargeinion sydd ar gael. Efallai y bydd eich darparwr yn cyfateb i, neu hyd yn oed yn curo, bargen well rydych chi wedi'i chael yn rhywle arall.

Os ydych chi'n newid, rydyn ni wedi ei gwneud hi'n haws, a dylai eich darparwr newydd ymdrin â'r broses i chi. Mae hefyd yn syml newid eich darparwr symudol trwy anfon neges destun am ddim (tecstiwch 'PAC' i 65075 i ddechrau).

  3. Bwndelwch eich gwasanaethau i wneud arbedion

Gwiriwch a yw'ch darparwr yn cynnig bwndeli. Mae prynu mwy nag un gwasanaeth gyda'i gilydd gan yr un darparwr – er enghraifft band eang gyda theledu-trwy-dalu neu linell dir – yn aml yn rhatach na thalu am bob gwasanaeth ar wahân. Gall bwndeli fod yn llai hyblyg, felly gwiriwch beth mae eich darparwr yn ei gynnig ac a yw'n addas i'r hyn sydd ei angen arnoch mewn gwirionedd.

  4. Ddim yn defnyddio'r gwasanaeth ffrydio? Canslwch ef

Edrychwch ar eich gwasanaethau teledu-trwy-dalu a ffrydio, a meddyliwch a fyddech chi'n colli allan pe byddech chi'n canslo unrhyw un ohonynt. Mae llawer o gartrefi’n talu am sawl un ar unwaith. Yn aml, gallwch ganslo – neu oedi – y gwasanaethau hyn ar unwaith heb unrhyw gosb, felly gallai hyn fod yn arbedwr arian cyflym a ddefnyddiol. Edrychwch ar wefan eich gwasanaeth, neu siaradwch â'ch darparwr.

  5. Peidiwch â thalu am fwy nag sydd ei angen arnoch

Parwch eich cynnig band eang i'r hyn rydych chi'n ei ddefnyddio mewn gwirionedd, a gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n talu am bethau ychwanegol nad ydych chi'n eu defnyddio, fel sianeli teledu ychwanegol, pecynnau galwadau neu hwb data.

Ddim yn siŵr pa gyflymder sydd ei angen arnoch? Gweler ein canllaw. Os oes gennych linell dir nad ydych chi'n ei ddefnyddio, gallai dewis pecyn band eang yn unig fod yn rhatach.

Mae'n debyg ar gyfer ffôn symudol. Gallai symud i becyn gyda lwfans data is arbed arian i chi. Gwiriwch faint o ddata rydych chi'n ei ddefnyddio – gallwch wneud hyn ar wefan neu ap eich darparwr. Gweler ein canllaw am ragor o wybodaeth.

  6. Edrychwch ar fargeinion SIM yn unig

Oes angen ffôn newydd arnoch chi mewn gwirionedd? Gallai prynu bargen SIM yn unig fod yr  opsiwn rhataf os oes gennych ffôn symudol rydych chi'n hapus ag ef a dim ond eisiau pecyn galwadau misol, negeseuon testun a data.

Os oes angen ffôn newydd arnoch, mae prynu hwn ar wahân yn aml yn rhatach yn gyffredinol na phrynu’ch ffôn ynghyd â'ch contract SIM. A pheidiwch ag anghofio – gall ffôn wedi'i adnewyddu fod yn fargen.

  7. Cadwch lygad ar gostau galwadau

Ystyriwch becyn gyda munudau cynhwysol os ydych chi'n gwneud llawer o alwadau. Cofiwch nad yw rhai rhifau wedi'u cynnwys yn y pecynnau hyn, felly edrychwch ar wefan eich darparwr a'n canllaw cost galwadau yn gyntaf.

Ystyriwch ddefnyddio apiau galw neu negeseuon am ddim dros Wi-Fi ar gyfer galwadau hirach i ffrindiau neu deulu, gan gynnwys galwadau dramor. Gallai hyn eich helpu i arbed ar gostau. Mae enghreifftiau’n cynnwys WhatsApp, FaceTime, a Facebook Messenger. Gwiriwch eich lwfans data symudol os nad ydych chi'n defnyddio Wi-Fi, gan fod angen data ar yr apiau hyn i weithio.

  8. Mynd ar wyliau? Gwiriwch y ffioedd crwydro (roaming) cyn i chi fynd

Cymerwch olwg ar ein cyngor crwydro os ydych chi'n teithio dramor. Mae ffioedd  am ddefnyddio’ch ffôn y tu allan i'r DU yn amrywio rhwng darparwyr. Gwiriwch eich pecyn cyn i chi deithio, neu gallech gael eich taro â bil mawr pan fyddwch chi'n cyrraedd adref. Gallech hefyd osod terfyn gwariant symudol.

  9. Cyfnewid eich hen becyn

Wedi cael cytundeb symudol neu fand eang newydd? Efallai y byddwch chi'n gallu cyfnewid  neu werthu eich hen ffôn, hyd yn oed os yw wedi’i  ddifrodi. Mae llawer o ddarparwyr band eang hefyd yn ailgylchu hen lwybryddion am ddim.

  10. Ceisiwch gymorth os ydych chi'n cael trafferth talu

Siaradwch â'ch darparwr cyn gynted  â phosibl.  Os ydych chi'n cael trafferth talu bil, dylent allu siarad â chi trwy'r cymorth sydd ar gael. Mae ein canllaw yn esbonio eich opsiynau.