HERO Stronger protections streaming services

Amddiffyniadau cryfach i gynulleidfaoedd y DU o dan safonau cynnwys a hygyrchedd newydd ar gyfer gwasanaethau ffrydio

Cyhoeddwyd: 14 Mai 2026
  • Mae Cod drafft newydd Ofcom yn gosod rheolau newydd ar gyfer ffrydwyr, gan gynnwys ynghylch niwed a throseddu, didueddrwydd a chywirdeb dyledus, thegwch a phreifatrwydd
  • Netflix i ddod o dan oruchwyliaeth Ofcom am y tro cyntaf
  • Miliynau i elwa o ofynion isdeitlo, sain-disgrifiad ac arwyddo newydd ar gyfer cynnwys wedi'i ffrydio

Am y tro gyntaf bydd cynulleidfaoedd y gwasanaethau ffrydio mwyaf a mwyaf poblogaidd, yn cael amddiffyniadau cryfach – yn debyg i safonau maent yn  eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt o deledu darlledu - o dan Godau drafft newydd Ofcom.

Rhoddodd Deddf y Cyfryngau bwerau newydd i Ofcom greu a gorfodi Cod safonau cynnwys newydd ar gyfer gwasanaethau 'fideo-ar-alw' - a elwir yn gyffredin fel gwasanaethau ffrydio. Y nod oedd lefelu'r cae chwarae rheoleiddiol rhwng gwasanaethau ffrydio a darlledwyr traddodiadol, fel bod gwylwyr yn derbyn amddiffyniadau tebyg, gwaeth sut a ble maent yn  gwylio.  

Mae Cod drafft Ofcom, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad heddiw, yn cyflwyno ystod o reolau newydd sy'n llywodraethu gwasanaethau ffrydio mawr  fel Netflix, Amazon Prime Video a Disney +. Am y tro cyntaf, bydd y platfformau hyn  yn destun i safonau cynnwys tebyg i'r rhai sydd eisoes ar waith ar gyfer darlledwyr traddodiadol. Mae hynny'n cynnwys rheolau ynghylch cynnwys niweidiol a sarhaus, tegwch a phreifatrwydd, a didueddrwydd dyledus a chywirdeb priodol mewn newyddion. [1]

Ochr yn ochr â hyn, rydym yn ymgynghori ar God newydd arfaethedig sy'n gosod gofynion hygyrchedd newydd llym ar gyfer gwasanaethau ffrydio. Bydd hyn yn sicrhau y gall mwy na 18 miliwn o bobl ag anableddau sy'n effeithio ar eu golwg neu eu clyw fwynhau'r cynnwys hwn gan ddefnyddio isdeitlau, sain-ddisgrifiad ac arwyddo.

Amddiffyniadau cyson fodd bynnag y mae cynulleidfaoedd yn dewis gwylio

Yn hanesyddol, nid yw gwasanaethau ffrydio wedi'u rheoleiddio i'r un safon â darlledwyr traddodiadol[2] gan adael gwylwyr ag amddiffyniadau anghyson wrth wylio ar draws gwahanol blatfformau. Mae rhai ffrydwyr - gan gynnwys Netflix - nad ydynt wedi'u lleoli yn y DU, wedi syrthio y tu allan i reoliad Ofcom yn gyfan gwbl, er eu bod yn targedu ac yn elwa o gynulleidfaoedd y DU. 

usage of streaming content CY

Mae ein Cod safonau cynnwys newydd arfaethedig ar gyfer gwasanaethau ffrydio 'Haen 1' yn adlewyrchu rheolau darlledu presennol y DU yn fras, ond mae wedi'i deilwra i adlewyrchu'r gwahaniaethau rhwng teledu darlledu traddodiadol, wedi'i amserlennu a chynnwys ar-alw. 

Rhaid i wasanaethau ffrydio, o dan ein cynigion, gydymffurfio â'r gofynion presennol ar gyfer pob gwasanaeth ar-alw, yn ogystal ag ystod o reolau Haen 1 atodol a nodir o dan y Cod drafft newydd.

Mae ein Cod drafft yn cwmpasu, ymhlith pethau eraill:

Diogelu pobl dan 18 oed: Bydd yn ofynnol i wasanaethau gydymffurfio â'r rhwymedigaethau presennol i ddiogelu cynulleidfaoedd ifanc rhag deunydd a allai fod yn niweidiol iddynt. Mae ein Cod newydd arfaethedig hefyd yn cynnwys amddiffyniadau gwell sy'n canolbwyntio ar ddiogelu lles a hawliau cyfreithiol pobl dan 18 oed sy'n ymddangos mewn rhaglenni.

Niwed a throseddu: Nid yw ein rheolau arfaethedig yn gwahardd deunydd a allai fod yn niweidiol neu sarhaus. Byddant, fodd bynnag, yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau ddarparu diogelwch digonol i wylwyr rhag niwed posibl, a bod trosedd i gael ei gyfiawnhau gan gyd-destun - gyda phwyslais ar alluogi dewisiadau gwylio gwybodus trwy wybodaeth a rhybuddion cynnwys clir. Rydym hefyd yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i gyfiawnhad golygyddol eithriadol gynnwys manylion penodol am ddulliau hunanladdiad newydd neu anarferol.

Trosedd, anhrefn, casineb a chamdriniaeth: Rydym yn cynnig rheolau i ategu'r gofynion presennol ar annog trosedd/anhrefn, chamdriniaeth a phortreadau technegau ac achosion troseddol.

Dideuedrwydd a chywirdeb dyledus: Mae ein rheolau arfaethedig ar gyfer y newyddion yn nodi’r rhai sydd yn y Cod Darlledu eisoes. Ar gyfer cynnwys nad yw'n newyddion – gan gynnwys rhaglenni materion cyfoes – rydym yn cynnig addasu'r gofynion didueddrwydd perthnasol ar gyfer yr amgylchedd ar-alw, fel cynnal rhoi’r hyblygrwydd i wasanaethau gynnal didueddrwydd dyledus ar draws ystod o raglenni.

Tegwch a phreifatrwydd: Rydym yn cynnig cynnal yr un lefel o ddiogelwch i unigolion neu sefydliadau rhag triniaeth annheg neu dorri preifatrwydd heb gyfiawnhad  mewn cynnwys ar wasanaethau ffrydio ag a wnawn ar gyfer cynnwys darlledu llinol.  

Gwneud ffrydio yn hygyrch i bawb

Er bod darlledwyr wedi bod yn ofynnol ers amser maith i wneud eu sianeli teledu yn hygyrch i bobl anabl, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfatebol ar wasanaethau ffrydio yn hanesyddol. Er mwyn sicrhau nad yw pobl anabl yn cael eu gadael ar ôl, cyflwynodd Ddeddf y Cyfryngau hefyd ofynion hygyrchedd newydd ar gyfer y gwasanaethau ffrydio. Mae hyn yn cynnwys cwotâu newydd ar gyfer isdeitlo, disgrifiad sain ac arwyddo. 

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei chod hygyrchedd drafft ar gyfer gwasanaethau ffrydio mawr, gan nodi sut rydym yn disgwyl iddynt fodloni eu gofynion newydd.  Rhaid i wasanaethau, o leiaf, isdeitlo 80% o'u catalog, sain-drisgrifio 10% a darparu arwyddo ar gyfer 5%. Ni fydd nodweddion mynediad o ansawdd gwael yn cyfrif tuag at gwotâu. 

Mae ein Cod hefyd yn nodi sut rydym yn disgwyl i wasanaethau gyflawni eu rhwymedigaethau i gadw cynulleidfaoedd yn wybodus am eu nodweddion hygyrchedd, a sut mae'n rhaid iddynt adrodd yn flynyddol ar eu hansawdd a'u defnydd.

Dywedodd Cristina Nicolotti Squires, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a'r Cyfryngau Ofcom: "Mae cynulleidfaoedd heddiw eisiau gwylio cynnwys gwych ar draws gwahanol blatfformau ar-alw gyda'r un sicrwydd a hyder sydd ganddynt wrth wylio teledu darlledu traddodiadol.

"Bydd ein Cod safonau cynnwys newydd arfaethedig ar gyfer y gwasanaethau ffrydio mwyaf a mwyaf poblogaidd, am y tro cyntaf, yn darparu'r amddiffyniadau clir a chyson y mae cynulleidfaoedd eu hangen ac yn eu disgwyl. Rydym hefyd yn sicrhau y gall  pobl â chyflyrau golwg a chlyw hefyd fwynhau cynnwys ffrydio poblogaidd trwy osod gofynion hygyrchedd newydd cryf."

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae ein hymgynghoriadau yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd, darlledwyr a gwasanaethau ffrydio rannu eu barn ar ein Codau arfaethedig, y mae'n rhaid eu cyflwyno erbyn 7 Awst 2026. Gan ystyried yr adborth hwn, rydym yn disgwyl cyhoeddi'r Codau terfynol yn ddiweddarach eleni. 

Rydym hefyd heddiw yn galw am dystiolaeth i lywio ein dull o ymchwilio i dorri posibl y Cod safonau cynnwys ar gyfer gwasanaethau ffrydio. Unwaith y bydd y Codau terfynol wedi'u cyhoeddi, byddwn yn ymgynghori'n ffurfiol ar y gweithdrefnau ymchwilio newydd hyn, gan gynnwys y broses ar gyfer sut y gall pobl gyflwyno cwynion o dan y rheolau newydd i Ofcom.


Nodiadau i olygyddion  

  1. O dan Ddeddf y Cyfryngau, diffinnir y  gwasanaethau 'Haen 1' y bydd yn rhaid iddynt ddilyn y Codau hyn gan  y Llywodraeth fel y rhai sydd  â mwy na 500,000 o ddefnyddwyr yn y DU. Bydd gwasanaethau a ddefnyddir gan ITV, Channel 4, Channel 5, S4C a STV i ffrydio cynnwys Darlledwyr Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd yn dod o dan reoliad Haen 1. Nid yw BBC iPlayer yn wasanaeth Haen 1. Mae eisoes wedi’i reoleiddio o dan  y Cod Darlledu. Fodd bynnag, rydym hefyd yn bwriadu cymhwyso'r Cod Hygyrchedd Haen 1 newydd i wasanaethau cyhoeddus ar-alw cyhoeddus perthnasol BBC UK.
  2. Ar hyn o bryd, rhaid i bob gwasanaeth Ar-alw yn y DU ddilyn y Rheolau Gwasanaeth Rhaglen Ar-Alw. Mae'r rhain yn adlewyrchu dyletswyddau statudol a fydd yn parhau i fod yn berthnasol i'r holl wasanaethau ar-alw, gan gynnwys gwasanaethau Haen 1.