Neidio i'r cynnwys
Global Search

Dolenni cyflym



English

Adran chwech: Etholiadau a refferenda

Cyhoeddwyd: 19 Chwefror 2024

Mae'r adran hon yn ymdrin â'r gofynion arbennig o ran didueddrwydd a deddfwriaeth arall y mae'n rhaid eu cymhwyso ar adeg etholiadau a refferenda.

(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 319(2)(c) a 320 Deddf Cyfathrebiadau 2003, Siarter a Chytundeb y BBC ac Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Dylai darlledwyr ddal sylw hefyd ar yr adrannau perthnasol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y’i diwygiwyd) (“RPA”) – gweler yn benodol adrannau 66A, 92 a 93 (sydd wedi’i diwygio gan adran 144 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000).)

Mae rheolau a wnaed o dan adran 333 Deddf Cyfathrebiadau 2003 (mewn perthynas â darllediadau etholiadol gan bleidiau gwleidyddol, darllediadau gwleidyddol gan bleidiau a darllediadau ymgyrchoedd refferendwm) a Chytundeb y BBC, y cyfeirir atynt ym mharagraff 18 Atodlen 12 Deddf Cyfathrebiadau 2003, wedi'u cynnwys yn Rheolau Ofcom ar Ddarllediadau Pleidiau Gwleidyddol a Refferenda. Fodd bynnag, mae hefyd yn ofynnol i ddarllediadau o’r fath gydymffurfio â darpariaethau perthnasol y Cod hwn, er enghraifft, y darpariaethau ynghylch niwed a thramgwydd – er bod y cynnwys yn gyfrifoldeb fel arfer i’r pleidiau gwleidyddol dan sylw.

Egwyddor

Sicrhau y cymhwysir y gofynion arbennig o ran didueddrwydd yn Neddf Cyfathrebiadau 2003 ac mewn deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â darlledu ar etholiadau a refferenda, ar adeg etholiadau a refferenda.

Rheolau

Rhaglenni ar adeg etholiadau a refferenda

6.1  Mae’r rheolau yn Adran Pump, yn enwedig y rheolau sy’n ymwneud â materion gwleidyddol neu ddiwydiannol sy’n bwnc llosg sylweddol a materion o bwys sylweddol sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol, yn berthnasol i’r ymdriniaeth o etholiadau a refferenda.

Rhaglenni ar adeg etholiadau a refferenda yn y DU

Nid yw gweddill yr adran hon ond yn berthnasol yn ystod cyfnod yr etholiad neu’r refferendwm ei hun sydd wedi’i ddiffinio isod.

Ystyr “etholiad”

At ddiben yr adran hon mae etholiadau’n cynnwys etholiad cyffredinol seneddol, is-etholiad seneddol, etholiad llywodraeth leol, etholiad maer, etholiad Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, etholiadau Seneddau'r Alban a Chymru, ac etholiadau Cynulliadau Gogledd Iwerddon a Llundain.

Ystyr “refferendwm”

At ddiben yr adran hon mae refferendwm yn refferendwm statudol (y mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“PPERA”) yn berthnasol iddo neu  y mae adran 127 PPERA wedi'i chymhwyso iddo) sydd yn cynnwys refferendwm DU gyfan, refferendwm cenedlaethol neu ranbarthol a gynhelir o dan ddarpariaethau un o Ddeddfau Senedd y DU neu Senedd yr Alban, ond nid yw’n cynnwys refferendwm lleol.

6.2  Rhaid rhoi pwys dyladwy ar y sylw a roddir i’r pleidiau ac ymgeiswyr annibynnol yn ystod cyfnod yr etholiad. Wrth benderfynu ar lefel briodol y sylw sydd i’w roi i bleidiau ac ymgeiswyr annibynnol, rhaid i ddarlledwyr ystyried tystiolaeth o gefnogaeth mewn etholiadau blaenorol a/neu gefnogaeth bresennol. Rhaid i ddarlledwyr hefyd ystyried rhoi sylw priodol i bleidiau ac i ymgeiswyr annibynnol sydd â safbwyntiau pwysig.

Ystyr “cyfnod yr etholiad”

Yn achos etholiad cyffredinol seneddol, mae’r cyfnod hwn yn dechrau wrth ddiddymu’r Senedd. Yn achos is-etholiad seneddol, mae’r cyfnod hwn yn dechrau  wrth gyhoeddi gwrit neu ar ddyddiad cynharach yn unol â hysbysiad yn y London Gazette. Yn achos etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae’r cyfnod yn dechrau wrth ddiddymu Senedd yr Alban neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu, yn achos is-etholiad, ar y dyddiad pan ddaw sedd yn wag. Yn achos Cynulliad Gogledd Iwerddon, Cynulliad Llundain ac etholiadau llywodraeth leol, mae’n dechrau ar y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau etholiad. Yn achos etholiadau Senedd Ewrop, mae’n dechrau ar y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad, sef 25 o ddiwrnodau cyn yr etholiad. Ym mhob achos daw'r cyfnod i ben pan fydd pleidleisio’n gorffen.

Ystyr “ymgeisydd”

Mae i ymgeisydd yr ystyr a roddir iddo yn adran 93 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y’i diwygiwyd) ac mae’n golygu ymgeisydd sydd wedi’i enwebu i sefyll yn yr etholiad neu ei gynnwys mewn rhestr o ymgeiswyr a gyflwynwyd mewn perthynas ag ef.

6.3  Rhaid rhoi pwys dyladwy i gyrff dynodedig mewn rhaglenni yn ystod cyfnod y refferendwm. Rhaid i ddarlledwyr hefyd ystyried rhoi sylw priodol i gyfranogwyr a ganiateir eraill sydd â barnau a safbwyntiau pwysig.

Ystyr “corff dynodedig” a “cyfranogwyr a ganiateir”

Cyrff dynodedig a chyfranogwyr a ganiateir yw’r rheini sydd wedi’u dynodi gan y Comisiwn Etholiadol.

Ystyr “cyfnod y refferendwm”

Yn  achos refferenda, gall gwahanol gyfnodau fod yn gymwys. Bydd refferendwm a gynhelir dan Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 (fel y’i diwygiwyd) yn dechrau pan roddir drafft o Orchymyn gerbron Senedd y DU i’w gymeradwyo gan y ddau Dŷ. Yn achos refferendwm a gynhelir o dan Ddeddfau eraill, nodir yr adeg pan fydd cyfnod refferendwm yn dechrau yn y Deddfau penodol. Yn achos Gorchymyn sydd gerbron Senedd y DU, rhoddir yr amser yn y Gorchymyn hwnnw. Ym mhob achos bydd y cyfnod yn dod i ben pan fydd pleidleisio’n gorffen.

6.4  Mae'n rhaid i drafod a dadansoddi materion sy’n ymwneud ag etholiadau a refferenda ddod i ben pan fydd y pleidleisio’n dechrau. (Mae hyn yn cyfeirio at agor y gorsafoedd pleidleisio eu hunain. Nid yw’r rheol hon yn berthnasol i unrhyw bleidlais a gynhelir drwy’r post yn unig.) Nid oes rhaid i wasanaethau rhaglenni ar-alw cyhoeddus (ODPS) y BBC dynnu cynnwys archif dros y cyfnod pan fydd modd pleidleisio.

6.5  Ni chaiff darlledwyr gyhoeddi canlyniadau unrhyw arolwg barn ar y diwrnod pleidleisio ei hun hyd nes y bydd gorsafoedd pleidleisio’r etholiad neu refferendwm yn cau.

6.6  Rhaid i ymgeiswyr yn etholiadau’r DU, a chynrychiolwyr cyfranogwyr cymeradwy yn refferenda’r DU, beidio â gweithredu fel cyflwynwyr newyddion, cyfwelwyr neu gyflwynwyr mewn unrhyw fath o raglen yn ystod cyfnod yr etholiad. Nid oes rhaid i wasanaethau rhaglenni ar-alw cyhoeddus (ODPS) y BBC dynnu cynnwys archif dros gyfnod yr etholiad neu’r refferendwm.

6.7  Mae ymddangosiadau gan ymgeiswyr (yn etholiadau’r DU) neu gynrychiolwyr (i gyfranogwyr cymeradwy yn refferenda’r DU) mewn rhaglenni anwleidyddol a gafodd eu cynllunio neu eu hamserlennu cyn cyfnod yr etholiad neu’r refferendwm yn cael mynd ymlaen, ond ni ddylid trefnu a darlledu unrhyw ymddangosiadau newydd yn ystod y cyfnod. Nid oes yn rhaid i wasanaethau rhaglenni ar-alw cyhoeddus (ODPS) y BBC dynnu cynnwys archif dros gyfnod yr etholiad neu’r refferendwm.

Sylw i etholaethau a sylw i ardaloedd etholiadol mewn etholiadau

(Ni fydd Rheolau 6.8 i 6.12 ond yn gymwys i S4C a/neu’r BBC os yw'r darlledwr perthnasol wedi’u mabwysiadu dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl fel ei Chod Ymarfer.)

6.8  Rhaid sicrhau didueddrwydd dyladwy mewn adroddiadau neu drafodaethau ar etholaethau neu mewn adroddiadau a thrafodaethau ar ardaloedd etholiadol.

Ystyr “ardal etholiadol”

Ardal etholiadol (er enghraifft, adran etholiadol, ward bwrdeistref neu ardal arall) yw’r hyn sy’n cyfateb mewn llywodraeth leol i’r term seneddol “etholaeth”.

6.9  Os bydd ymgeisydd yn cymryd rhan mewn eitem am ei etholaeth neu ei ardal etholiadol ei hun yna mae'n rhaid i ddarlledwyr gynnig y cyfle i gymryd rhan i’r holl ymgeiswyr yn yr etholaeth neu’r ardal etholiadol sy’n cynrychioli pleidiau a gefnogwyd yn sylweddol mewn etholiadau blaenorol neu lle ceir tystiolaeth o gefnogaeth bresennol sylweddol. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ymgeiswyr annibynnol. Fodd bynnag, os bydd ymgeisydd yn gwrthod neu’n methu â chymryd rhan, caiff yr eitem fynd ymlaen serch hynny.

6.10  Rhaid cynnwys mewn unrhyw adroddiad neu drafodaeth ar etholaeth neu ardal etholiadol a ddarlledir ar ôl cau’r enwebiadau restr o’r holl ymgeiswyr sy’n sefyll, gan roi eu henwau cyntaf, eu cyfenwau ac enw’r blaid y maent yn ei chynrychioli neu, os ydynt yn sefyll yn annibynnol, y ffaith eu bod yn ymgeisydd annibynnol. Rhaid cyfleu hyn drwy sain a/neu lun. Os ailddarlledir adroddiad ar etholaeth ar wasanaeth radio nifer o weithiau ar yr un diwrnod, dim ond unwaith y mae angen darlledu’r rhestr lawn. Os na fydd yr adroddiad ar etholaeth yn rhoi’r rhestr lawn o ymgeiswyr wrth ei ailddarlledu wedyn ar y diwrnod hwnnw, dylid cyfeirio’r gynulleidfa i wefan briodol neu ffynhonnell wybodaeth arall sy’n rhestru’r holl ymgeiswyr ac yn rhoi’r wybodaeth sydd wedi’i nodi uchod.

6.11  Os bydd ymgeisydd yn cymryd rhan mewn rhaglen ar unrhyw fater, ar ôl i'r etholiad gael ei alw, rhaid peidio â rhoi cyfle iddynt wneud pwyntiau etholaethol, neu bwyntiau ynglŷn â'r ardal etholiadol, am yr etholaeth neu ardal etholiadol lle y mae’n sefyll, os na roddir cyfle tebyg i unrhyw ymgeiswyr eraill.

6.12  Os rhoddir sylw i ranbarthau etholiad ehangach,  er  enghraifft, mewn etholiadau i Senedd yr Alban, Senedd Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon neu Gynulliad Llundain, bydd Rheolau 6.8 i 6.12 yn berthnasol o ran cynnig cyfle i ymgeiswyr gymryd rhan. Yn yr achosion hyn, dylid rhestru’r holl bleidiau sydd ag ymgeisydd yn y rhanbarth perthnasol drwy sain a/neu lun, ond nid oes angen rhestru ymgeiswyr yn unigol. Fodd bynnag, mae'n rhaid enwi unrhyw ymgeisydd annibynnol nad yw’n sefyll ar restr plaid. Os ailddarlledir adroddiad ar wasanaeth radio nifer o weithiau ar yr un diwrnod, dim ond unwaith y mae angen darlledu’r rhestr lawn. Os na fydd yr adroddiad ar etholaeth yn rhoi’r rhestr lawn o ymgeiswyr wrth ei ailddarlledu wedyn ar y diwrnod hwnnw, dylid cyfeirio’r gynulleidfa i wefan briodol neu ffynhonnell wybodaeth arall sy’n rhestru’r holl ymgeiswyr ac yn rhoi’r wybodaeth sydd wedi’i nodi uchod.

Yn ôl i'r brig