Newidiadau i Gronfa Radio Cymunedol

Cyhoeddwyd: 6 Awst 2026

Mae'r Gronfa Radio Cymunedol yn gynllun ariannu grantiau a grëwyd i gefnogi gorsafoedd radio cymunedol trwyddedig Ofcom. Mae'n cael ei ddyrannu gan yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'i reoli gan Ofcom.

Mae gorsafoedd radio cymunedol yn gwasanaethu ystod eang o gymunedau lleol ledled y DU.Ymroddiad a brwdfrydedd gwirfoddolwyr sydd wrth galon y gorsafoedd radio hyn, ac maent yn adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog o ddiwylliannau a diddordebau, ac yn darparu cymysgedd eang o gynnwys a gynhyrchir yn lleol yn bennaf.

Yng Nghynllun Gweithredu Cyfryngau Lleol DCMS, cyhoeddwyd y byddai £1,000,000 o gyllid ar gael i gryfhau radio cymunedol ar gyfer pob un o'r tair blynedd ariannol nesaf. Ar gyfer 2026–27, cyfanswm y cyllid sydd ar gael drwy'r Gronfa Radio Cymunedol yw £900,000. Mae £100,000 pellach wedi'i neilltuo gan DCMS ar gyfer mentrau sector-cyfan i gefnogi'r sector radio cymunedol.

Oherwydd y cynnydd sylweddol hwn mewn cyllid, bydd Ofcom yn gweinyddu un rownd ariannu fesul blwyddyn ariannol.

Newidiadau pwysig

Eleni, bydd y Gronfa Radio Cymunedol yn cynnwys dwy ffrwd ariannu. Mae'r ffrwd bresennol wedi'i hailenwi'n Gronfa Cynaliadwyedd a bydd yn parhau i weithredu fel arfer gan gefnogi rolau swyddi a phrosiectau sy'n gwella hyfywedd hirdymor gorsafoedd. Yn ogystal, bydd Cronfa Offer pwrpasol ar gael i drwyddedwyr radio cymunedol analog sydd wedi bod ar yr awyr ers o leiaf 10 mlynedd. Mae meini prawf cymhwysedd gwahanol yn berthnasol i’r ddau ffrwd, felly dylai ymgeiswyr dalu sylw manwl i’r nodiadau canllaw sydd newydd eu diweddaru i bennu cymhwysedd a'r mathau o gostau y gellir eu cefnogi. (gall y rhain fod yn destun i fân newidiadau, felly gofynnir i ddarpar ymgeiswyr lawrlwytho copi o'r nodiadau canllaw eto ddechrau mis Medi).

Rydym hefyd yn cyflwyno'r opsiwn o geisiadau aml-flwyddyn ar gyfer y Gronfa Cynaliadwyedd. Gall gorsafoedd wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau neu rolau sy'n para hyd at uchafswm o dair blynedd yn y rownd hon yn unig. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau am unrhyw hyd, boed hynny'n gwpl o fisoedd, neu hyd at dair blynedd. Dim ond nifer cyfyngedig o geisiadau aml-flwyddyn y byddwn yn eu hariannu oherwydd cyfyngiadau gweinyddol ac ariannol, felly bydd angen i unrhyw gais aml-flwyddyn gyfiawnhau'r angen yn glir.

Cyllid sydd ar gael ar gyfer 2026/27

Cronfa Cynaliadwyedd  

£800,000

Cronfa Offer  

£100,000

Ceisiadau

Dim ond i orsafoedd radio cymunedol trwyddedig Ofcom yn y DU, sy'n darlledu ar AM, FM, neu drwy drwydded Rhaglen Sain Ddigidol Gymunedol ar amlblecs radio digidol y gellir dyfarnu grantiau.

Bydd ffurflen gais newydd yn cael eu chyhoeddi ar wefan y Gronfa Radio Gymunedol pan fydd y rownd nesaf yn agor ym mis Medi (dyddiad i'w gyhoeddi). Rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r ffurflen; mae’n bosibl y bydd ceisiadau a wneud gan ddefnyddio’r hen ffurflen yn cael eu gwrthod.

Rydym yn argymell yn gryf bod ymgeiswyr yn adolygu "materion nodedig" y panel o'r rownd ariannu flaenorol ac yn ymgorffori'r adborth hwn yn eu ceisiadau.

Dyfarnu Grantiau

Os ystyrir bod cais yn anghymwys, bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad cau. Fodd bynnag, ni chaniateir ailgyflwyniadau, felly rydym yn annog ymgeiswyr yn gryf i wirio eu ceisiadau yn ofalus a, lle bo modd, adolygu eu ceisiadau cyn eu cyflwyno.