young woman with headphones on mobile_web

Y prif dueddiadau o’n cipolwg diweddaraf ar arferion gwrando pobl yn y DU

Cyhoeddwyd: 21 Mai 2025

Rydym wedi cyhoeddi ein hymchwil ddiweddaraf sy’n edrych ar sut mae pobl yn y DU yn gwrando ar wahanol gynnwys a llwyfannau. Mae’r canfyddiadau’n seiliedig ar ein Harolygon Sain a Phodlediadau blynyddol yn 2025, lle rydym yn gofyn i bobl am eu defnydd o wahanol fathau o sain a’u hagweddau tuag atynt.

Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at amrywiaeth o ganfyddiadau – i gael rhagor o fanylion darllenwch yr adroddiad llawn. Ac yma rydym yn nodi rhai o’r pethau rydym wedi’u darganfod eleni. 

Podlediadau sy'n boblogaidd ymysg gwrandawyr iau

Mae dros un oedolyn o bob pump yn gwrando ar bodlediadau bob wythnos, gyda chyrhaeddiad yn uwch ymhlith pobl iau a'r rheini mewn aelwydydd ag incwm uwch.

Mae’r rheini sy’n gwrando ar bodlediadau bob wythnos yn fwy tebygol o fod yn iau (mae 28% o bobl 25-34 oed a 30% o bobl 35-44 oed yn gwrando bob wythnos), ac aelwydydd incwm uwch (30% o bobl). Y rheini rhwng 35 a 44 oed sydd fwyaf tebygol o wrando ar bodlediadau, gyda’r rheini rhwng 15 a 24 oed yn llai tebygol o wrando arnynt (24%) a’r rheini sy’n 65 oed a hŷn yw’r grŵp lleiaf tebygol o wrando arnynt (12%).

Er bod pobl yn defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau, ffonau clyfar yw’r ddyfais sy’n cael ei defnyddio amlaf i wrando ar bodlediadau. Mae person cyffredin sy’n gwrando ar bodlediadau’n gwrando ar bum podlediad bob wythnos, a sioeau adloniant, newyddion a materion cyfoes, comedi a sioeau trafod sy’n parhau i fod y pynciau mwyaf poblogaidd.

Mae gwrandawyr radio yn dal i ffafrio eu setiau radio

Er bod cynnydd parhaus wedi bod yn y nifer sy’n gwrando ar y radio ar seinyddion clyfar ac ar-lein, y set radio yw’r ffordd fwyaf cyffredin o hyd o wrando ar y radio. 
Fodd bynnag, mae dewis y gwrandawyr o ddyfais yn dibynnu ar ble maen nhw a pha ddyfeisiau sydd ar gael iddynt. Er enghraifft, mae seinyddion clyfar yn cyfrif am gyfran uwch o lawer o wrando gartref (26%) o’i gymharu â’r cyfartaledd ar draws pob lleoliad (18%) ac mae gliniaduron, ffonau clyfar a dyfeisiau ar-lein eraill yn cyfrif am gyfran uwch o wrando yn y gwaith ac mewn mannau eraill (18% o’i gymharu â chyfartaledd o 11%).

Ond radio byw sy’n gyfrifol am y gyfran fwyaf o’r gwrando drwy seinyddion clyfar 

Wrth edrych ar yr hyn mae pobl yn gwrando arno ar seinyddion clyfar, radio byw ar-lein sy’n dal â’r gyfran fwyaf, ac mae’n cyfrif am ychydig dros hanner yr amser sy’n cael ei dreulio’n gwrando (55%). Mae hyn yn debyg iawn i ganfyddiadau’r llynedd. 
Ffrydio cerddoriaeth yw’r ail ddewis mwyaf poblogaidd, ac mae’n cyfrif am dros draean o’r amser sy’n cael ei dreulio bod wythnos yn gwrando ar sain ar seinyddion clyfar. 

Yn y cyfamser, mae tri defnyddiwr seinydd clyfar o bob pump yn dweud fod eu dyfais wedi chwarae’r peth anghywir pan wnaethant ofyn iddi chwarae gorsaf radio benodol.

Mae gwasanaethau cerddoriaeth ar-lein nawr yn cyfateb â radio cerddoriaeth o ran nifer gwrandawyr

Mae nifer y bobl sy’n gwrando ar wasanaethau cerddoriaeth ar-lein bob wythnos nawr yn debyg i’r nifer sy’n gwrando ar radio cerddoriaeth, sef tua chwe oedolyn o bob deg. Mae pobl iau dros ddwywaith yn fwy tebygol o wrando ar wasanaethau ffrydio cerddoriaeth o’i gymharu â’r rheini sy’n 55 oed a hŷn.

Yn y cyfamser, mae dros saith o bob deg (71%) o bobl sy’n defnyddio cynorthwyydd llais yn ei ddefnyddio i wrando ar orsafoedd radio a mathau eraill o sain, fel ffrydio cerddoriaeth neu bodlediadau. Seinyddion clyfar yw’r ddyfais sy’n cael ei defnyddio amlaf fel cynorthwywyr llais, ac mae dros hanner y rheini sy’n defnyddio cynorthwywyr llais (54%) i wrando ar y radio yn gwneud eu ceisiadau llais gan ddefnyddio seinydd clyfar, o’i gymharu â dim ond un o bob pump (20%) sy’n defnyddio ffôn clyfar.

Mae gwrandawyr hŷn yn fwy tebygol o ffafrio fformatau ffisegol

Mae wyth o bob deg (78%) o bobl 55 oed a hŷn wedi gwrando ar eu casgliad personol ar CD, finyl a chasét, o’i gymharu ag ychydig dros hanner y bobl 16-34 oed (54%), er bod gwrando wythnosol yn fwy cytbwys, sef 29% a 25% yn y drefn honno.

Yn ôl i'r brig