Ymgynghoriad: Amlygrwydd a Hygyrchedd ar platfformau teledu cysylltiedig: Cod Ymarfer drafft a'n Canllawiau drafft ar Amcanion y Cytundeb

Cyhoeddwyd: 14 Ionawr 2026
Ymgynghori yn cau: 25 Mawrth 2026
Statws: Datganiad ar y gweill (Wedi'i Gau)
Diweddarwyd diwethaf: 19 Mehefin 2026

Cyflwynodd Deddf y Cyfryngau 2024 reolau newydd hanfodol i helpu i wneud cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn haws i'w canfod a’i ddarganfod ar y platfformau teledu cysylltiedig y mae pobl yn eu defnyddio fwyfwy i ddewis a chael mynediad at raglenni teledu. Rhaid i'r platfformau teledu cysylltiedig hyn hefyd gymryd camau i ymgorffori nodweddion hygyrchedd.

O dan y drefn newydd, am y tro cyntaf, rhaid i ddarparwyr y platfformau teledu cysylltiedig a ddefnyddir fwyaf sicrhau bod BBC iPlayer a chwaraewyr teledu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (PSB) eraill a fel y’u dynodir gan Ofcom, yn ogystal â'r cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, ac unrhyw sianeli gwasanaeth cyhoeddus y maent yn eu cynnwys, ar gael ac yn amlwg ar eu platfformau. 

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym yn egluro ein cynigion ar gyfer cod ymarfer a fydd yn nodi'r camau gweithredu a argymhellir y gall darparwyr platfformau teledu cysylltiedig dynodedig eu cymryd i sicrhau bod y chwaraewyr darlledu gwasanaeth cyhoeddus, eu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, ac unrhyw sianeli gwasanaeth cyhoeddus sydd wedi’u cynnwys yn y chwaraewyr yn cael gradd briodol o amlygrwydd ar eu platfformau. 

Mae’r drefn newydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr platfformau teledu cysylltiedig dynodedig wneud eu platfformau’n hygyrch i ddefnyddwyr anabl. O’r herwydd, mae'r cod ymarfer arfaethedig yn cynnwys camau gweithredu a argymhellir sy'n anelu at wella profiad pobl anabl (yn enwedig y rhai â chyflyrau golwg neu glyw) wrth lywio rhyngwyneb defnyddiwr y platfformau hynny a dod o hyd i gynnwys hygyrch.

Rydym hefyd yn ymgynghori ar ganllawiau ar sut y gall darparwyr llwyfannu teledu cysylltieidg dynodedog a’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gydymffurfio â'u dyletswydd newydd i weithredu’n gyson ag amcanion cytundeb statudol wrth ymrwymo i drefniadau gyda’i gilydd i gynnwys chwaraewyr darlledwyr gwasanaeth cyheoddus dynodedig mewn platfformau teledu cysylltiedig dynodedig.

Mae ein cod ymarfer a'n Canllawiau drafft wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg ac yn canolbwyntio ar y dyfodol, gan sicrhau y gall darparwyr addasu o fewn y fframwaith rheoleiddio wrth i dechnoleg ac arferion gwylio ddatblygu. 

Byddwn yn cyhoeddi datganiad ynghyd â'r cod ymarfer a'r canllawiau terfynol yn ddiweddarach eleni, gan ystyried ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.

Ymateb i'n galwad am fewnbwn 

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm ar 25 Mawrth 2026.

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Content Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA