Mae Ofcom wedi cael ceisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddarlledu Twrnamaint Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Merched Ewrop UEFA 2025 (“y Twrnamaint”) yn fyw ac yn egsgliwsif.
Cynhelir y Twrnamaint yn y Swistir o ddydd Mercher 2 Gorffennaf tan ddydd Sul 27 Gorffennaf.
Mae Twrnamaint Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Merched Ewrop UEFA wedi’i ddynodi’n ddigwyddiad rhestredig Grŵp A at ddibenion Deddf Darlledu 1996. O dan y Ddeddf, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos digwyddiadau rhestredig yn fyw ac yn egsgliwsif.
Mae Ofcom yn bwriadu rhoi’r caniatâd hwn dros dro, yn amodol ar ystyried unrhyw sylwadau sy’n dod i law mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm ar 9 Mehefin 2025.
Sut i ymateb
Listed Events
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA