Datganiad: Polisi Comisiynu ar gyfer Cynyrchiadau Channel 4

Cyhoeddwyd: 20 Mehefin 2025
Ymgynghori yn cau: 1 Awst 2025
Statws: Datganiad wedi'i Gyhoeddi (Wedi'i Gau)
Diweddarwyd diwethaf: 27 Tachwedd 2025

Datganiad 25 Tachwedd 2025

Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddwyd fersiwn ddrafft o'r Canllawiau hyn ac ymgynghorwyd ar ein cynigion. Cawsom 8 ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Rydym wedi ystyried yr holl wybodaeth a gawsom yn yr ymatebion hyn ac rydym bellach yn cyhoeddi ein Canllawiau terfynol.

Rydym yn disgwyl y bydd cyhoeddi SoCP C4C yn darparu tryloywder pellach i randdeiliaid, a byddwn yn adolygu ac yn adrodd i ba raddau y mae C4C wedi cyflawni ei dyletswyddau newydd o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Byddwn hefyd yn parhau i asesu cyflawniad ehangach C4C o'i chylch gwaith a’i dyletswyddau cynnwys cyfryngau, er enghraifft drwy ein hymateb blynyddol i Ddatganiad C4C o Bolisi Cynnwys y Cyfryngau, ein Hadolygiadau Cyfryngau Gwasanaethau Cyhoeddus a'n hymgysylltiad â darlledwyr a diwydiant ehangach.

Gwybodaeth cyswllt

Cyfeiriad

Content Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA