Cwynion am Ofcom


Cam un

O dan gam un, rydym yn gofyn yn gyntaf i chi gysylltu â'r tîm yn Ofcom y mae eich cwyn yn ymwneud ag ef, gan amlinellu eich pryderon. Mae hyn rhoi cyfle iddynt ymchwilio i'ch pryderon a, phan fydd angen, cywiro pethau. Yn yr achosion hyn, bydd angen i'n cydweithwyr ddeall, mewn ffordd mor glir a chryno ag sy'n bosib, sut y maent wedi methu â bodloni'r meini prawf uchod yn eich barn chi.

Os byddwch yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Gorfforaeth heb gwblhau cam un yn gyntaf, ond bod eich cwyn dod o dan y cylch gwaith, mae'n bosib y bydd Tîm Ysgrifennydd y Gorfforaeth yn cyfeirio eich e-bost at y tîm perthnasol yn Ofcom am ymateb cychwynnol.

Os yw eich cwyn am waith Ofcom yn y Gymraeg neu ein cydymffurfiad â safonau'r Gymraeg, mae angen i chi gwblhau a chyflwyno ein ffurflen gwyno.

Cam dau

Os, ar ôl i chi gwblhau cam un, nad ydych yn credu i'ch cwyn gael ei drin yn briodol, gallwch ofyn i Ysgrifennydd y Gorfforaeth adolygu'r mater. Fel a nodwyd uchod, bydd angen i chi amlinellu'n glir ac yn gryno sut, yn eich barn chi, y mae gweithwyr Ofcom wedi methu â dilyn gweithdrefnau Ofcom a/neu drin eu cyswllt â chi'n briodol. Mae penderfyniad Ysgrifennydd y Gorfforaeth yn derfynol ac nid oes modd symud y mater ymhellach ymlaen o fewn Ofcom.

Camau pellach

Mae Ofcom yn rheoleiddiwr annibynnol ac rydym yn atebol i Senedd y DU. Os ydych wedi cwblhau proses gwynion lawn Ofcom ac nid ydych yn tybio bod eich cwyn wedi'i datrys, mae'n bosib y bydd modd i chi gyflwyno'ch cwyn i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Seneddol ac Iechyd sy'n gwneud penderfyniadau terfynol ar gwynion heb eu datrys. Bydd angen i'ch Aelod Seneddol lofnodi'ch cwyn.

Cysylltu ag Ysgrifennydd y Gorfforaeth

Gellir cysylltu ag Ysgrifennydd y Gorfforaeth yn corporationsecretary@ofcom.org.uk. Am ddulliau cysylltu eraill, gweler ein tudalen cysylltu â ni. Os dymunwch wneud eich cwyn i Ysgrifennydd y Gorfforaeth dros y ffôn, nodwch hynny pan fyddwch yn cysylltu ag Ofcom. Bydd y gweithwyr yn Ofcom sy'n trin eich cyswllt yn nodi'ch cais ac yn trefnu i swyddfa Ysgrifennydd y Gorfforaeth ffonio chi'n ôl.

Rydym yn cydnabod bod rhanddeiliaid weithiau'n cysylltu â ni ar ôl i bob cam arall fethu. Rydym yn deall hefyd y gall pobl ymddwyn allan o gymeriad pan fyddant wedi'u cynhyrfu neu mewn trallod, neu y gall fod gan bobl ofynion arbennig yn unol ag amgylchiadau personol, er enghraifft, oherwydd anabledd neu salwch.

Rydym yn ceisio gwneud ein gwasanaeth yn hygyrch i bawb. Mae croeso felly i chi ein hysbysu am unrhyw beth a allai fod yn berthnasol i, neu yr ydych yn ystyried y gallai effeithio ar, ein cyswllt â chi ac unrhyw gamau ychwanegol y tybiwch efallai y gallwn eu cymryd i'ch cefnogi chi. Byddwn yn ceisio gwneud addasiadau rhesymol i'n dull o gyfathrebu â chi a'r ffordd y byddwn yn trin eich achos er mwyn cymryd y fath amgylchiadau i ystyriaeth.