Pwyllgor Cynghori Cymru
Mae Pwyllgor Cynghori Cymru'n rhoi cyngor i Ofcom ynghylch buddiannau a safbwyntiau pobl yng Nghymru mewn perthynas â materion cyfathrebu.
Mae'r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd pum gwaith y flwyddyn. Mae cofnodion y Pwyllgor yn cael eu darparu i Fwrdd Ofcom.
Cylch Gwaith y Pwyllgor Cynghori yw:
- ceisio nodi materion sy'n effeithio ar y sectorau cyfathrebiadau a phost yng Nghymru, fel Pwyllgor ar y cyd ac yn unigol fel Aelodau, yn enwedig yn y sectorau lle mae ganddynt wybodaeth benodol neu arbenigedd
- darparu cyngor i Ofcom am faterion cyffredinol a phenodol sy'n ymwneud â sectorau'r cyfathrebiadau a phost sy'n codi yng Nghymru
- darparu cyngor a sylwadaeth fel y bo angen am faterion a gyflwynir i'r Pwyllgor gan Ofcom
- cynnig sylwadaeth am ymgynghoriadau Ofcom
- ar gais y Bwrdd Cynnwys, darparu cyngor penodol i'r Bwrdd hwnnw ar faterion mewn perthynas â theledu, radio ac unrhyw gynnwys arall ar wasanaethau y mae Ofcom yn eu rheoleiddio
- ar gais Bwrdd Ofcom, darparu cyngor i'r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau ar faterion yn y sector cyfathrebiadau sy'n effeithio ar ddefnyddwyr yng Nghymru
- cynhyrchu adroddiad blynyddol yn adlewyrchu materion o fewn y sectorau cyfathrebu a phost yng Nghymru.
27 Chwefror 2024
12 Mehefin 2024
2 Hydref 2024
26 Tachwedd 2024
2022
Cofnodion cyfarfod rhif 84 Pwyllgor Cynghori Cymru – 22 Mawrth 2022 (PDF, 207.9 KB)
2021
Cofnodion cyfarfod rhif 82 Pwyllgor Cynghori Cymru – 22 Medi 2021 (PDF, 193.6 KB)
Cofnodion cyfarfod rhif 81 Pwyllgor Cynghori Cymru – 15 Mehefin 2021 (PDF, 218.4 KB)
Cofnodion cyfarfod rhif 80 Pwyllgor Cynghori Cymru – 9 Mawrth 2021 (PDF, 172.8 KB)
2020
Cofnodion Cyfarfod rhif 79 Pwyllgor Cynghori Cymru – 16 Rhagfyr 2020 (PDF, 187.1 KB)
Cofnodion Cyfarfod rhif 78 Pwyllgor Cynghori Cymru – 15 Medi 2020 (PDF, 182.6 KB)
Cofnodion Cyfarfod rhif 77 Pwyllgor Cynghori Cymru – 2 Mehefin 2020 (PDF, 197.8 KB)
Cofnodion Cyfarfod rhif 76 Pwyllgor Cynghori Cymru – 11 Mawrth 2020 (PDF, 178.5 KB)
Gallwch ddod o hyd i gofnodion hŷn ar wefan allanol Saesneg yr Archifau Cenedlaethol.
Robert Andrews (Cadeirydd)
Mae Robert yn newyddiadurwr a golygydd sydd wedi troi'n ddadansoddwr a strategydd golygyddol. Mae’n arbenigo mewn trawsnewid y cyfryngau, technoleg a marchnata. Helpodd i lansio un o wefannau papurau newydd lleol cyntaf y DU ac mae wedi ysgrifennu ar gyfer cyhoeddwyr sy'n cynnwys The Guardian, Wired a The Drum. Roedd hefyd yn uwch olygydd rhyngwladol ffynhonnell newyddion dylanwadol y diwydiant cyfryngau digidol paidContent.
Mae Robert yn darparu adroddiadau ar dueddiadau'r diwydiant ar gyfer cwmnïau dadansoddi ac wedi darlithio ym maes newyddiaduraeth ar-lein ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae'n awdur y llyfr 'Startup Blueprint: 7 Skills For Founders, Builders &Leaders'. Yn wreiddiol o Lanelli, mae Robert wedi byw yng Nghaerdydd am ugain mlynedd.
Ymunodd Robert â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 1 Tachwedd 2017 ac fe'i penodwyd yn Gadeirydd ar 1 Awst 2023. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Gorffennaf 2026.
Dr Aled Eirug (aelod anweithredol)
Mae Aled Eirug yn gynghorydd polisi strategol llawrydd ac yn gweithio i Brifysgol Abertawe a chleientiaid eraill. Bu'n aelod o awdurdod llywodraethu'r gwasanaeth darlledu Cymraeg, S4C (2012 -2015), cadeirydd pwyllgor ymgynghorol y Cyngor Prydeinig ar gyfer Cymru (2012-2015) ac yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Cyngor Prydeinig (2013-2015).
Mae'n newyddiadurwr a darlledwr profiadol gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn ITV a'r BBC. Ef oedd Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru Wales rhwng 1992 a 2006 ac yn aelod o Fwrdd Rheoli BBC Cymru Wales rhwng 2000 a 2006. Mae ganddo brofiad helaeth o gynhyrchu radio, teledu ac ar-lein ar draws newyddion, materion cyfoes a gwneud rhaglenni dogfen.
Ymunodd Aled â'r Pwyllgor ar 1 Rhagfyr 2021. Mae ei benodiad yn parhau tan 21 Mai 2025.
Angharad Evans (aelod anweithredol)
Mae Angharad Evans yn gyfreithiwr ffilm a theledu ymgynghorol ac mae wedi cynghori busnesau o bob maint o fusnesau newydd i frandiau a gydnabyddir yn rhyngwladol am yr 20 mlynedd diwethaf. Cyn dod yn ymgynghorydd roedd hi'n Bennaeth Adran Materion Cyfreithiol a Busnes S4C a bu'n gweithio yn y tîm Ffilm a Chyfryngau arbenigol yn SJ Berwin, Llundain.
Mae'n cynghori amrywiaeth o gleientiaid o gwmnïau cynhyrchu bach i gwmnïau rhyngwladol mawr ar gyd-gynyrchiadau, dosbarthu, trefniadau ariannu aml-bleidiol, cytundebau hawliau, cytundebau opsiwn a chliriadau. Mae'n cael ei chydnabod fel Unigolyn Blaenllaw yng Nghyfraith y Cyfryngau yng Nghymru yn y ‘Legal 500’ a ‘Chambers and Partners.’
Ymunodd Angharad Evans â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 1 Ionawr 2022. Mae ei phenodiad yn parhau tan 31 Rhagfyr 2026.
_____________________
Yn ogystal â'r Aelodau a benodir i'r Pwyllgorau Cynghori, gwahoddir yr Aelodau o'r Bwrdd Cynnwys a'r Aelodau o'r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau ar gyfer y Gwledydd i fynychu Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynghori perthnasol. Yng Nghymru yr aelodau hyn yw:
- Yr Athro Ruth McElroy, Aelod o'r Bwrdd Cynnwys ar gyfer Cymru
- Rachel Burr, Aelod o'r Panel Defnyddwyd Cyfathrebiadau