Gweithio gydag ymchwilwyr academaidd

15 Ebrill 2024

Mae Ofcom yn gweithio gydag academyddion mewn sawl ffordd, gan roi cyfleoedd i ni gyfnewid syniadau a’n helpu i gyflawni ein rôl fel rheoleiddiwr sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Os ydych chi'n academydd, yn gorff cyllido neu'n sefydliad addysgol, mae'r dudalen hon yn nodi rhai o'r ffyrdd posibl y gallwch weithio gyda ni.

Cefnogi cynigion a phrosiectau

Efallai y bydd Ofcom yn cefnogi prosiect ymchwil sy’n cyd-fynd â’n meysydd diddordeb. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddem yn darparu cyllid ond gallem:

  • ysgrifennu llythyr o gefnogaeth;
  • ysgrifennu llythyr tystiolaeth o effaith;
  • eistedd ar y pwyllgor cynghori; neu
  • croesawu myfyrwyr ôl-raddedig neu PhD, neu academyddion sy’n rhan olaf eu gyrfa

Gweithgorau a phaneli

Mae gennym nifer o weithgorau a phaneli i gefnogi’r gwaith o gyflawni ein gwaith. Rydym yn adolygu aelodaeth y grwpiau hyn yn rheolaidd fel bod eu harbenigedd yn cyd-fynd â’n hamcanion.  Pan fydd cyfleoedd i ymuno â’r grwpiau hyn ar gael, byddwn yn eu cyhoeddi ar y dudalen hon.

Digwyddiadau a chynadleddau

Rydym yn cynnal rhaglen eang o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys cynadleddau mawr, trafodaethau panel llai a thrafodaethau bwrdd crwn. Mae cydweithwyr Ofcom hefyd yn rhannu canfyddiadau ein hymchwil mewn digwyddiadau eraill. Os hoffech drafod cyfleoedd ar gyfer cynadleddau, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad e-bost isod.

Ysgoloriaethau PhD ac interniaethau ôl-raddedig

Rydym yn cynnal interniaethau ôl-raddedig ac ysgoloriaethau PhD wedi’u noddi ar y cyd o bryd i'w gilydd i ganolbwyntio ar wahanol agweddau ar waith Ofcom. Rydym yn trefnu’r rhain gyda’r sefydliad perthnasol, nid y myfyriwr unigol.

Secondiadau

O bryd i’w gilydd, gallwn wneud trefniadau i academyddion sy’n rhan olaf eu gyrfa i ymgymryd â secondiadau yn Ofcom am gyfnod cyfyngedig, neu i gydweithwyr Ofcom ymgymryd â secondiadau mewn sefydliadau academaidd.

Data agored

Mae Ofcom yn dilyn egwyddorion data agored. Rydym yn sicrhau bod y data rydym yn eu casglu a'u creu ar gael i academyddion a'r cyhoedd yn gyffredinol lle bynnag y bo modd.

Ni all Ofcom ymrwymo i rannu unrhyw ddata ag ymchwilwyr nad yw ar gael i'r cyhoedd yn barod.

Agenda Ymchwil Diogelwch Ar-lein

Fe wnaethom gyhoeddi ein Hagenda Ymchwil gyntaf ar gyfer diogelwch ar-lein ar 15 Ebrill 2024. Os ydych chi’n credu y gallwch chi gefnogi ein gwaith yn unrhyw un o’n meysydd diddordeb, cysylltwch â ni (manylion cyswllt isod) neu llenwch y ffurflen mynegiad o ddiddordeb (cliciwch ar Y Gymraeg).

Cysylltu â ni

I drafod prosiect ymchwil neu gyfle gydag Ofcom, anfonwch e-bost atom yn  ymgysylltu.academaidd@ofcom.org.uk

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?