Pecyn cychwynnol i fusnesau
Mae sefydlu neu redeg busnes yn gallu bod yn anodd, ac mae’n bwysig eich bod yn deall hanfodion y broses gyfathrebu er mwyn helpu i roi dechrau da i’ch busnes.
Nid pawb sy’n gallu bod yn arbenigwr ar gynnyrch cyfathrebu a chysylltedd, felly bydd y pecyn cychwynnol hwn ar gyfer busnesau bach sydd â deg neu lai o weithwyr yn eich helpu i ddeall pethau ar y cychwyn.
Am ragor o wybodaeth, dewiswch y dolenni isod.
Yn dibynnu ar ba fath o fusnes ydych chi, cyn i chi gychwyn bydd angen i chi gynllunio sut gall cwsmeriaid gysylltu â chi. Ydych chi eisiau cymryd galwadau? Oes angen gwefan, cyfeiriad e-bost, neu gyfleusterau archebu ar-lein arnoch chi?
Bydd angen i chi drefnu contract gyda darparwr cyn i chi fwrw iddi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i wneud hyn.
Cofiwch: Ni fydd pob darparwr yn fodlon i chi ddefnyddio tariff preswyl ar gyfer eich busnes. Mae hyn yn berthnasol hefyd i gontractau ffonau symudol, felly eto, holwch cyn i chi brynu.
Mae manteision gwasanaethau busnes i’w gweld ar ein tudalen dewis gwasanaeth a’n canllaw graffig gwybodaeth.
Gwasanaeth llais sefydlog i fusnesau
Os ydych chi am i bobl gysylltu â chi, yn aml iawn mae’n well cael rhif llinell dir (neu rif cyfradd leol neu Radffôn). Bydd hyn yn cadw’r costau’n isel i’r cwsmeriaid sy’n cysylltu â chi.
Mae llinell sefydlog yn gysylltiad â gwifr rhwng adeiladau eich busnes a'r gyfnewidfa agosaf, drwy gabinet ar y stryd. Yr enghraifft fwyaf cyffredin yw eich llinell ffôn safonol (llinell dir).
Gwasanaeth symudol i fusnesau
Mae ffonau symudol i fusnesau yn gweithio yn union yr un ffordd â ffonau symudol i breswylwyr. Ond, mae’n bosib y bydd tariffiau a phrisiau ffonau symudol i fusnesau yn cynnig manteision, ac efallai y bydd rhagor o gefnogaeth ar gael fel rhan o gontract.
Mae ffonau symudol yn debygol o fod yn bwysig iawn i’ch busnes os nad oes gennych chi swyddfa sefydlog, neu os oes angen i chi aros mewn cysylltiad wrth symud o le i le. Mae rhai darparwyr yn cynnig cyfleusterau sy’n gadael i chi godi galwadau o ffôn eich swyddfa ar eich ffôn symudol (ac fel arall hefyd), ac mae’n darparu rhif llinell dir lleol ar gyfer eich ffôn symudol.
I helpu i gadw cysylltiad wrth i chi a’ch gweithwyr symud o le i le, mae adnodd rhyngweithiol Ofcom yn caniatáu i chi weld beth yw ansawdd darpariaeth symudol EE, O2, Three a Vodafone ar gyfer unrhyw god post yn y DU gyda chlic llygoden.
Gallwch weld:
- beth yw’r ddarpariaeth llais a data yn ôl cwmni symudol;
- y ddarpariaeth tu mewn a'r tu allan i adeiladau; a
- gwybodaeth dopograffig sy'n caniatáu i ddefnyddwyr weld lle mae'r ardaloedd lle ceir rhwystrau naturiol i'r ddarpariaeth, fel cymoedd a bryniau.
Mae'r adnodd hwn yn gallu eich helpu i gymharu darparwyr cyn i chi ymrwymo i gontract a dewis darparwr sy’n diwallu anghenion eich busnes orau.
Mae gwybodaeth am ddarpariaeth symudol ar gael hefyd ar wefannau darparwyr, ac mae rhagor o gyngor am gynyddu signal ffôn symudol yng nghanllaw arbennig Ofcom.
Mae band eang yn ffordd o gysylltu â'r rhyngrwyd. Mae’n caniatáu i wybodaeth gael ei chludo ar gyflymder uchel i’ch cyfrifiadur personol, gliniadur, cyfrifiadur tabled, ffôn clyfar, teledu clyfar neu ddyfais arall y gellir ei defnyddio ar y we.
Mae technoleg band eang yr un fath ar gyfer defnyddwyr preswyl a busnesau; ond mae’n bosib na fyddwch chi’n cael defnyddio pecyn preswyl ar gyfer eich busnes.
Beth yw’r gwahanol fathau o fand eang?
ADSL (llinell danysgrifio ddigidol anghymesur) yw'r math o fand eang sydd ar gael fwyaf, ac mae’n cael ei ddarparu drwy wifrau copr eich llinell ffôn. Fel arfer, mae’n gallu darparu hyd at 24Mbit yr eiliad.
Bydd y cyflymder yn amrywio yn dibynnu ar ba mor bell ydych chi o’ch cyfnewidfa ffôn agosaf, felly os yw’r pecyn yn cynnwys cyflymder ‘hyd at’, mae’n ddigon posib na chewch chi wasanaeth mor gyflym â'r hyn a hysbysebwyd. Cofiwch ofyn i’r darparwr am gael gwirio’r cyflymder i gael syniad o’r hyn sy’n bosib gyda’r llinell i’ch adeilad.
Mae band eang cebl yn defnyddio ceblau ffibr optig a chyfechelog i ddarparu gwasanaethau band eang cyflym iawn, yn ogystal â gwasanaethau ffôn a theledu, yn uniongyrchol i gartrefi.
Yn wahanol i ADSL, nid yw’r cyflymder yn dueddol o ddirywio gyda phellter. Gall technoleg cebl ddarparu cyflymderau band eang cyflym iawn ac mae'r pecynnau band eang cebl cyflymaf yn cynnig cyflymderau o ‘hyd at’ 200Mbit yr eiliad.
Mae band eang ffibr yn cael ei ddarparu drwy glystyrau o geblau ffibr optig, ac mae’n gyflymach nag ADSL. Mae dau fath o fand eang ffibr cyflym iawn; ‘ffibr i'r cabinet’ (FTTC) a ‘ffibr i’r adeilad' (FTTP).
Mae gan FTTC geblau ffibr optig rhwng y gyfnewidfa a’r cabinet ar y stryd, ac wedyn copr i adeiladau’ch busnes. Fel arfer, mae’n gallu darparu hyd at 76Mbit yr eiliad, ond mae’r cyflymder yn dal yn gallu dirywio dros bellter mawr. Mae FTTP yn darparu ceblau ffibr optig yn syth i’ch adeiladau, ac felly mae’n gyflymach, ac fel arfer yn gallu darparu hyd at 1Gbit yr eiliad (1,000Mbit yr eiliad).
Ddylwn i gael band eang cyflym iawn neu fand eang ADSL ar gyfer fy musnes?
Gall band eang cebl a ffibr cyflym iawn gynnig darpariaeth gyflymach o lawer na gwasanaethau ADSL, ond maen nhw’n costio mwy fel arfer. Os mai busnes bach ydych chi sy’n defnyddio ychydig iawn o’r rhyngrwyd, mae’n bosib y byddai ADSL yn ddigon i fodloni eich anghenion.
Bydd yr angen am gysylltiad cyflym iawn yn dibynnu ar ba fath o fusnes ydych chi, a beth rydych chi’n awyddus i'w wneud gyda’ch gwasanaethau cyfathrebu a’ch cysylltiad. Edrychwch yn ein blwch ar y dde i gael esboniad am ofynion defnydd.
Efallai y bydd eich anghenion yn gofyn hefyd am wahanol fathau o gysylltiadau llais a data, ac mae gwybodaeth am fanteision cyfathrebu i fusnesau ar gael yn ein canllaw, ac yn egluro’r jargon.
Mae cysylltedd yn gwella drwy'r amser yn y DU, ond i ambell fusnes, er enghraifft y rheini sydd mewn ardaloedd gwledig, mae’n bosib y bydd cyfyngiadau o hyd o ran y gwasanaethau a’r cynnyrch sydd ar gael i fusnesau.
Mae’r rhan fwyaf o adeiladau yn y DU yn gallu cael band eang ADSL dros rwydwaith copr Openreach (a chan KCOM yn Kingston upon Hull).
Mae band eang cebl, a gyflenwir drwy rwydwaith Virgin Media, ar gael i oddeutu traean o adeiladau mentrau bach a chanolig y DU, ac oddeutu hanner yr adeiladau yn gyffredinol (ffigurau 2014) ond mae’n fwy tebygol o fod ar gael mewn lleoliadau trefol.
Mae gwasanaethau cyflym iawn (cebl a ffibr) yn cael eu hymestyn i fwy a mwy o adeiladau busnes; gallwch ddefnyddio’r adnoddau ar ein tudalen dewis gwasanaeth a darparwr i weld a oes modd i chi gael gafael arnyn nhw.
Os ydych chi’n fusnes sy’n agor adeiladau newydd neu’n fusnes sy’n bwriadu adleoli, mae adnodd rhyngweithiol Ofcom yn caniatáu i chi weld a yw gwasanaethau band eang cyflym iawn a safonol ar gael mewn ardal benodol drwy roi’r cod post.
Yn yr un modd, os ydych chi’n awyddus i uwchraddio pecyn band eang presennol eich busnes, gallwch holi a oes gwasanaethau cyflymach ar gael yn lleol.
Os ydych chi neu eich gweithwyr yn teithio’n rheolaidd a bod angen mynediad i’r rhyngrwyd arnoch chi neu fod angen i chi anfon negeseuon e-bost wrth symud o le i le, mae'r adnodd hefyd yn dangos darpariaeth band eang symudol 3G a 4G ar gyfer unrhyw god post yn y DU – gweler ‘Gwasanaeth symudol i fusnesau’.
Mae bron i 1.7 miliwn o sefydliadau a busnesau ddim yn defnyddio'r rhyngrwyd ac nid oes ganddynt unrhyw bresenoldeb ar y we nac ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ôl Mynegai Digidol Lloyd's Bank 2014.
Os yw hyn yn wir am eich busnes, neu os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus i ddefnyddio gwasanaethau cyfathrebu digidol, peidiwch â phoeni. Mae amrywiaeth o lefydd sy’n cynnig cymorth, all-lein ac ar-lein. Mae rhai o’r rhain wedi’u rhestru yn ein hadran help a chyngor.
Mae modd defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gysylltu â nhw ac mae gan rai, er enghraifft Canolfan Cyngor ar Bopeth a’r Siambrau Masnach, swyddfeydd ledled y DU.
Mae gwefan Go ON UK yn lle da i gychwyn dysgu am gyfathrebiadau digidol. Mae’r tudalennau gwe Sgiliau Digidol yn cynnig cyngor, arweiniad ac adnoddau defnyddiol, gan gynnwys gwybodaeth am sut mae defnyddio gwasanaethau cyfathrebu.
Mae’n bwysig hefyd fod defnyddwyr busnes yn gallu defnyddio gwasanaethau cyfathrebu mewn ffordd ddiogel, yn enwedig os ydych chi’n gwneud neu’n caniatáu i gwsmeriaid wneud trafodion ariannol ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth am warchodaeth ar-lein ar gael ar dudalennau busnes GetSafeOnline, a gwefan Cyber Street.