Contractau

Telerau contract teg a thryloyw

Rhaid i ddarparwyr sicrhau bod telerau eu contract yn deg ac yn dryloyw. Mae gennym reolau ynghylch y math o wybodaeth am gontractau y dylech ei chael cyn i chi ddechrau ar gontract.

Ar gyfer cwsmeriaid preswyl a busnesau bach (gyda deg o weithwyr neu lai), cyn y gallwch roi eich caniatâd i ymrwymo i gontract, dylech dderbyn crynodeb contract un dudalen (neu dair tudalen ar gyfer gwasanaethau wedi'u bwndelu) yn ysgrifenedig, sy'n cynnwys gwybodaeth allweddol, megis taliadau, hyd y contract a'r broses ar gyfer canslo. Cyn i chi gael eich rhwymo gan y contract, rhaid i'r darparwr hefyd roi wybodaeth fanylach am gontractau i chi yn ysgrifenedig.

Newidiadau i dermau ac amodau

Gall darparwyr ffonau a band eang newid telerau contract ond rhaid iddynt roi o leiaf mis o rybudd i chi a hawl i adael y contract heb gosb os nad yw'r newid o fudd i chi. Fodd bynnag, ni fydd gennych yr hawl i adael y contract os yw'r newid sy'n cael ei wneud:

1. er eich budd chi yn unig, er enghraifft uwchraddio cyflymder;

2. yn gwbl weinyddol ac nad yw'n cael unrhyw effaith negyddol arnoch, er enghraifft newid yng nghyfeiriad neu fanylion banc eich darparwr; neu

3. a osodir yn uniongyrchol gan y gyfraith, er enghraifft, newid yng nghyfradd TAW.

Mae gan rai darparwyr gontractau sy'n nodi y bydd y prisiau misol a dalwch yn cynyddu ar adegau penodol yn ystod y contract, er enghraifft cynyddu yn ôl chwyddiant bob blwyddyn. Dylid egluro hyn i chi pan fyddwch yn llofnodi'r contract fel eich bod yn gwybod beth fydd yn rhaid i chi ei dalu ar wahanol adegau yn y contract. Os gwnaed hyn yn glir ar yr adeg y gwnaethoch ymuno â'r contract, ni fydd gennych yr hawl i adael heb gosb pan fydd y cynnydd yn digwydd.

Sut mae cwyno

Os ydych chi’n credu nad yw eich darparwr wedi rhoi gwybod yn iawn i chi am newidiadau i’ch telerau ac amodau, neu os ydych chi’n credu bod unrhyw delerau ac amodau yn eich contract yn annheg neu na chawsant eu hegluro i chi, cysylltwch ag adran gwasanaeth i gwsmeriaid eich darparwr a chwyno.

Os na fydd eich darparwr yn datrys y broblem, gofynnwch iddo am lythyr sefyllfa ddiddatrys. Bydd hyn yn caniatáu i chi fynd â'ch cwyn at gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR).

Mae ADRs yn gweithredu fel cyfryngwr annibynnol. Byddant yn ystyried yr achos o'r ddwy ochr ac yn dod i benderfyniad sy’n deg yn eu barn nhw. Os oes wyth wythnos wedi mynd heibio ers ichi gwyno’n ffurfiol am y tro cyntaf, gallwch gysylltu â chynllun ADR yn uniongyrchol.

Mae dau gynllun ADR: Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebiadau, a Chynllun Dyfarnu’r Gwasanaethau Cyfathrebiadau a’r Rhyngrwyd (CISAS). Rhaid i bob darparwr fod yn perthyn i un o’r cynlluniau. Bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi pa gynllun mae’n aelod ohono, neu gallwch chi ddefnyddio ein gwiriwr Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod.

Dweud wrth Ofcom

Os ydych chi wedi cael problemau â thelerau ac amodau eich contract ffôn neu fand eang (os ydyn nhw wedi newid neu oherwydd eich bod yn credu eu bod yn annheg), rhowch wybod i ni drwy lenwi ein ffurflen fonitro fer.

Er nad yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol, mae eich help chi yn dwyn sylw at broblemau yn chwarae rhan hanfodol yn ein gwaith ac efallai byddwn yn ymchwilio i gwmni os bydd data monitro yn dangos bod problem benodol yn bodoli.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?