Data personol a phreifatrwydd

Nid yw Ofcom yn rheoleiddio diogelu data. Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), y rheoleiddiwr perthnasol, lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer y cyhoedd.

Os ydych yn anfodlon ar sut mae eich data'n cael ei ddefnyddio gan wasanaethau ar-lein, gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r ICO.

Recordio galwadau

Mae sawl cyfraith ar gyfer recordio galwadau ffôn. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA);
  • Rheoliadau Telathrebu (Arfer Busnes Cyfreithlon) (Rhyng-gipio Cyfathrebiadau) 2000 (Rheoliadau LBP);
  • Deddf Diogelu Data 2018;
  • Rheoliadau Telathrebu (Diogelu Data a Phreifatrwydd) 1999;
  • Deddf Hawliau Dynol 1998

Os oes angen cymorth arnoch yn y maes hwn, dylech geisio cyngor cyfreithiol. Oherwydd cymhlethdodau'r cyfreithiau dan sylw, nid yw Ofcom mewn sefyllfa i gynnig arweiniad.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?