Ffonau talu cyhoeddus

Blwch ffôn diffygiol neu wedi'i ddifrodi

Cysylltwch â'r darparwr blychau ffôn cyhoeddus: dyma fydd KCOM (yn ardal Hull) neu BT (ym mhob rhan arall o'r DU).

I roi gwybod am flwch sy'n ddiffygiol neu wedi'i difrodi i BT, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: customer.serv.payphones@bt.com. Gweler gwefan BT am fwy o fanylion.

I roi gwybod am flwch sy'n ddiffygiol neu wedi'i difrodi yn ardal Hull, cysylltwch â KCOM yn: payphones@kcom.com.

Blwch ffôn sy'n cael ei ddileu

O dan ein rheolau, ni all BT a KCOM ddileu blwch bellach os mai dyma'r olaf sy'n weddill mewn ardal (h.y. mwy na 400 metr o bellter cerdded o'r blwch ffôn cyhoeddus nesaf) ac mae'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf hyn:

  • mae mewn ardal nad oes ganddi ddarpariaeth gan bob un o'r pedwar darparwr rhwydwaith symudol;
  • mae wedi'i leoli mewn ardal sydd â nifer uchel o ddamweiniau neu achosion o hunanladdiad;
  • mae 52 o alwadau neu fwy wedi'u gwneud ohono yn y 12 mis diwethaf; neu
  • mae tystiolaeth arall bod angen rhesymol am y blwch ar y safle – er enghraifft os yw'n debygol y dibynnir arno yn achos argyfwng lleol, megis llifogydd, neu os caiff ei ddefnyddio i ffonio llinellau cymorth.

Cyn dileu y blwch ffôn olaf yn ei ardal nad yw'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf hyn, mae'n rhaid i BT neu KCOM ymgynghori â'r awdurdod lleol perthnasol ynghylch ei ddileu. Os yw BT neu KCOM yn bwriadu dileu eich blwch ffôn lleol a'ch bod yn gwrthwynebu hyn, ysgrifennwch at eich cyngor lleol.

Mae mwy o wybodaeth am ddileu blychau ffôn cyhoeddus ar gael ar ein gwefan.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?