Y ffordd cafodd gwasanaeth ei werthu

Mae ar Ofcom eisiau i gwsmeriaid fod yn hyderus na fydd gwasanaethau’n cael eu gwerthu mewn ffordd dwyllodrus.

Os ydych chi’n meddwl bod gwasanaeth wedi cael ei gamwerthu i chi, cwynwch wrth Ofcom.

Er na allwn ymchwilio i achosion unigol, gall eich cwynion chi ein helpu i lansio ymchwiliadau a chymryd camau.

I gael help gyda’ch problem, dilynwch y camau hyn.

Holwch dîm gwasanaeth i gwsmeriaid eich darparwr ac egluro’ch problem.

Os na fydd hyn yn datrys pethau, dylech chi gyflwyno cwyn ffurfiol i’r cwmni. Dylai fod manylion ynghylch sut mae gwneud hyn ar gefn eich bil, ar eu gwefan neu drwy ofyn i’w hadran gwasanaeth i gwsmeriaid.

Os nad ydy’ch darparwr yn gallu datrys eich cwyn, gofynnwch am lythyr sefyllfa ddiddatrys. Bydd hyn yn caniatáu i chi fynd â'ch cwyn at gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR).

Mae cynllun ADR yn gweithredu fel cyfryngwr annibynnol. Byddant yn ystyried yr achos o'r ddwy ochr ac yn dod i benderfyniad sy’n deg yn eu barn nhw. Os oes wyth wythnos wedi mynd heibio ers ichi gwyno’n ffurfiol am y tro cyntaf, gallwch gysylltu â’r cynllun ADR yn uniongyrchol.

Mae dau gynllun ADR: Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebiadau, a Chynllun Dyfarnu’r Gwasanaethau Cyfathrebiadau a’r Rhyngrwyd (CISAS). Rhaid i bob darparwr fod yn perthyn i un o’r cynlluniau.

Bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi pa gynllun mae’n aelod ohono, neu gallwch chi ddefnyddio ein gwiriwr Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?