Post Brenhinol

Os oes gennych chi gŵyn am y Post Brenhinol, cysylltwch â’r cwmni’n uniongyrchol:

Gwasanaeth i Gwsmeriaid y Post Brenhinol

Ffôn: 03457 740 740 (ffôn testun 0846 000606)

Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid y Post Brenhinol, FREEPOST ROYAL MAIL CUSTOMER SERVICES.

Mae proses delio â chwynion y Post Brenhinol ar gael ar wefan y Post Brenhinol.

Os nad oes modd datrys eich cwyn, gallwch ofyn i’r Cynllun Annibynnol Gwneud Iawn drwy'r Post (POSTRS) ymchwilio i’ch achos. POSTRS yw’r gwasanaeth dulliau amgen o ddatrys anghydfod (ADR) ar gyfer materion post.

Dim ond cwynion am rai o wasanaethau post y Post Brenhinol y gall POSTRS ymchwilio iddynt. Gellir canfod y gwasanaethau hyn yma. Os nad yw’n cwmpasu eich cwyn chi, a’ch bod chi’n dal yn anfodlon ar ymateb y Post Brenhinol, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol a diduedd yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr post yng Nghymru a Lloegr. Gallwch ffonio Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1133 neu ewch i’w gwefan.

Gall pobl yn yr Alban gysylltu ag Advice Direct Scotland ar 0808 196 8660 neu fynd i’w gwefan.

Gall Pobl yng Ngogledd Iwerddon gysylltu â’r Cyngor Defnyddwyr ar 0800 121 6022 neu fynd i’w gwefan.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?