Harasio gan newyddiadurwyr y wasg

Mae’r Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol (IPSO) yn rhedeg gwasanaeth 24 awr i helpu aelodau o'r cyhoedd sy’n poeni am ymyrryd a harasio gan y wasg.

Rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 09:00 i 17:30, gallwch gysylltu â’r Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol ar 0300 123 2220. Ar gyfer achosion brys y tu allan i oriau swyddfa, gallwch gael gafael ar un o aelodau staff y Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol drwy’r llinell 24 awr, sef 07799 903 929.

O dan delerau’r Cod Ymarfer Golygyddion, mae’r Sefydliad Safonau yn y Wasg Annibynnol yn gallu helpu unigolion sy’n cael eu harasio gan ffotograffydd neu newyddiadurwr y wasg. Mewn rhai achosion, mae hefyd yn gallu helpu - ar sail ewyllys da - gyda phryderon am weithredoedd newyddiadurwyr darlledu, yn enwedig pan fydd “sgrym” wasg wedi casglu sy’n achosi gofid.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?