Rhaglen nad yw wedi cael ei darlledu eto ar deledu neu radio, neu nad yw wedi ymddangos ar wasanaeth fideo ar-alwad

Nid sensor yw Ofcom, ac nid oes gennym bwerau i gymeradwyo rhaglenni cyn iddynt gael eu darlledu ar wasanaethau teledu neu radio, neu cyn iddynt gael eu dangos ar wasanaethau fideo ar-alwad.

Serch hynny, rhaid i ddarlledwyr a darparwyr gwasanaethau ar-alwad wneud yn siŵr nad yw eu rhaglenni yn torri ein rheolau. Os ydych chi’n poeni am raglen sydd heb gael ei dangos ar deledu, radio neu wasanaeth ar-alw eto, dylech gysylltu â’r darlledwr neu’r darparwr gwasanaeth perthnasol.

Dyma restr o’n darlledwyr teledu trwyddedig a rhestr o ddarlledwyr radio, yn ogystal â rhestr o ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni fideo ar-alw rydyn ni'n rheoleiddio. Nid yw darparwyr gwasanaethau radio ar alw yn cael eu rheoleiddio.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?