Sut i gwyno am orsaf radio neu sianel deledu nad yw'n glynu wrth reolau trwyddedu Ofcom

Mae Ofcom yn trwyddedu gorsafoedd radio a theledu i ddarlledu eu gwasanaethau. Mae'r trwyddedau hynny'n cynnwys nifer o ofynion megis rhwymedigaeth y darlledwr i ddarparu gwybodaeth a recordiadau i Ofcom. Mae rhai o'r trwyddedau hefyd yn cynnwys rheolau ynghylch pa fath o gynnwys y gellir ei ddarlledu, er enghraifft y math o gerddoriaeth y mae gorsaf radio yn ei chwarae, Ymrwymiadau Allweddol gorsaf radio gymunedol, neu faint yr isdeitlo ar y teledu.

Gwiriwch yr hyn y mae'n ofynnol i orsafoedd teledu a radio ei ddarlledu cyn cyflwyno eich cwyn.

Sut allaf wneud cwyn?

Os credwch nad yw sianel neu orsaf yn glynu wrth y rheolau trwyddedu sy'n berthnasol i'w gwasanaeth, llenwch ein ffurflen cwyno am drwyddedu darlledu.

Dylech ddefnyddio'r ffurflen hon os ydych am gwyno am orsaf deledu neu radio nad yw'n bodloni'r gofynion rhaglennu sydd wedi'u cynnwys yn ei thrwydded (gweler rhagor o wybodaeth am hyn isod), neu os yw gorsaf radio drwyddedig neu sianel deledu leol oddi ar yr awyr.

Ni ddylech ddefnyddio'r ffurflen hon:

  • os ydych am gwyno i Ofcom am gynnwys rhaglen benodol;
  • i roi adborth ar ansawdd rhaglen a ddarlledwyd;
  • os ydych yn pryderu nad yw sianel deledu yn darparu digon o isdeitlo, arwyddion neu ddisgrifiadau sain.

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn gwneud cwyn?

Rydym yn asesu pob cwyn a dderbyniwn i benderfynu a yw'n codi materion y gallwn eu hystyried o dan ein Gweithdrefnau cyffredinol ar gyfer ymchwilio i achosion o dorri trwyddedau darlledu (PDF, 296.7 KB).

Os daw eich cwyn o fewn cylch gwaith y gweithdrefnau hyn, byddwn yn ei hystyried yn ofalus i benderfynu a yw'n codi materion sy'n gofyn am ymchwiliad pellach. Waeth p'un a ydym yn credu bod angen ymchwiliad ai beidio, byddwn yn ysgrifennu'n ôl atoch gyda chanlyniad eich cwyn. Bydd ein penderfyniad hefyd fel arfer yn cael ei gyhoeddi yn ein Bwletin Darlledu ac Ar-Alw, a gyhoeddir bob pythefnos ar ein gwefan.

Os nad yw eich cwyn o fewn y cylch gwaith hwn, bydd eich cwyn yn cael ei chofnodi ond ni fyddwch yn derbyn ymateb pellach gennym.

Gall Ofcom hefyd lansio ymchwiliadau heb fod angen derbyn cwyn gan wyliwr neu wrandäwr.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?