Hygyrchedd ar un o sianeli teledu'r BBC

Cysylltwch â'r BBC yn uniongyrchol i gwynio am hygyrchedd (gan gynnwys isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain) ar un o'i sianeli. Gall derbyn adborth a chwynion gan gynulleidfaoedd helpu darlledwyr i wella ansawdd eu gwasanaethau mynediad.

Os ydych chi wedi cwyno i'r BBC ac nid ydych yn fodlon ar y penderfyniad terfynol a gawsoch, cwblhewch ein ffurflen cwyno am y BBC. Gallwch hefyd yrru e-bost atom yn accessibilitycomplaints@ofcom.org.uk neu gysylltu dros y ffôn gan gynnwys cyfnewid fideo, neu drwy'r post.

Rydym yn croesawu cwynion i'n cyfeiriad e-bost mewn fformatau heblaw print, er enghraifft recordiad sain neu fideo Iaith Arwyddion Prydeinig. I ymateb mewn BSL:

  • Anfonwch recordiad atom ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb. Ni ddylai hyn fod yn hwy na 5 munud. Fformatau ffeil addas yw DVD, ffeiliau wmv neu QuickTime. Neu
  • Uwchlwythwch fideo ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb yn uniongyrchol i YouTube (neu wefan letya arall) ac anfonwch y linc atom.

Os oes arnoch angen yr wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, darllen hawdd, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r tîm digidol.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?