Ymyriant i radio amatur

Mae ymyriant i radio amatur fel arfer yn cael ei achosi gan:

  • aflonyddwch electromagnetig o gyfarpar neu osodiadau;
  • imiwnedd gwael neu ddetholedd derbynyddion;
  • defnyddwyr lluosog sy’n defnyddio’r un sianel ar yr un pryd mewn ystod agos (tagfeydd); neu
  • defnyddio cyfarpar telegraffiaeth ddi-wifr heb drwydded.

Darllenwch ragor am yr hyn sy'n achosi ymyriant 

Beth gallwch chi ei wneud

Cyn cysylltu ag Ofcom, rydym yn annog amaturiaid radio i ofyn am gyngor gan Gymdeithas Radio Prydain Fawr (RSGB). Mae gwefan RSGB yn cynnwys canllawiau manwl ar sut mae lliniaru yn erbyn ymyriant. Edrychwch ar ganllaw RSGB ar gydnawsedd electromagnetig (EMC).

Gall yr RSGB helpu amaturiaid radio a phobl eraill y gallai problemau sy’n digwydd yn y bandiau amatur effeithio arnynt, neu sy’n datblygu ar amleddau eraill o ganlyniad i drosglwyddiadau amatur. E-bost: helpdesk.emc@rsgb.org.uk

Sut gallwn ni helpu

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddwn yn ymchwilio i ymyriant i offer radio pan fyddwn yn fodlon â’r canlynol:

  • mae’r ymyriant yn ‘niweidiol’;
  • mae y tu hwnt i'ch rheolaeth; a
  • bod pob cam rhesymol wedi’i gymryd i leihau’r effaith.

Efallai y byddwn yn anfon peiriannydd allan i ymchwilio. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn atebol am gost yr ymchwiliad os gwelwn nad yw’r meini prawf uchod wedi’u bodloni.

Beth yw ymyriant niweidiol?

Nid yw aflonyddwch electromagnetig neu sŵn, yn ymyriant ‘niweidiol’ ynddo’i hun.

Mae ymyriant i gyfathrebiadau radio yn cael ei ystyried yn niweidiol os yw’n:

  • creu perygl, neu risgiau o berygl, mewn perthynas â gweithrediad unrhyw wasanaeth a ddarperir dros delegraffiaeth ddi-wifr at ddibenion llywio neu fel arall at ddibenion diogelwch
  • achosi dirywiad, yn rhwystro neu’n ymyrryd dro ar ôl tro ag unrhyw beth sy'n cael ei ddarlledu neu fel arall yn cael ei drosglwyddo dros delegraffiaeth ddi-wifr ac yn unol â thrwydded telegraffiaeth ddi-wifr, neu ddyfarniad mynediad sbectrwm cydnabyddedig neu fel arall yn gyfreithlon.

Mae'n annhebygol y byddai Ofcom yn ymchwilio i adroddiad o ymyriant nad yw'n cael ei ystyried yn ‘niweidiol ’. Nid ein polisi ni yw hyn, ac nid oes gennym bwerau i wneud hyn yn effeithiol.

Rhoi gwybod am ymyriant

Cyn rhoi gwybod i ni am ymyriant, dylech wneud y canlynol:

  • cofnodi pob digwyddiad am o leiaf wythnos gyda’r amser, y dyddiad a’r orsaf neu’r cyfarpar yr effeithir arnynt;
  • sefydlu nad yw ffynhonnell yr ymyriant niweidiol o fewn eich rheolaeth chi (e.e. o fewn eich eiddo chi eich hun); a
  • sicrhau bod yr orsaf neu’r cyfarpar yr effeithir arnynt yn gweithio’n iawn.

cysylltwch â ni am gyngor a chymorth, neu llenwch ffurflen ymyriant neu gam-drin i radio amatur.

Rhoi gwybod am ymddygiad aflonyddgar

Yn gyffredinol, nid oes gan Ofcom y pŵer i reoleiddio cynnwys cyfathrebiadau radio. Ond os ydych yn amatur radio trwyddedig, gallwch gwyno i ni os yw rhywun yn chwarae cerddoriaeth, yn meddiannu sianeli'n fwriadol, neu'n ymwneud ag unrhyw fath arall o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n niweidio eich hobi neu'n achosi trallod personol.

Os yw'r honiad yn cynnwys geiriau bygythiol, ymosodol neu sarhaus, dylech gysylltu â'r heddlu. Os bydd yr heddlu'n gwneud cais penodol, byddwn yn cynorthwyo eu hymchwiliad.

O dan y Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr, gall Ofcom amrywio (neu hyd yn oed ddirymu) trwydded os oes angen. Mae hyn yn golygu y gallwn amrywio trwydded radio amatur i reoli ymyriant niweidiol.

Mae'n anghyfreithlon defnyddio cyfarpar i ymyrryd yn fwriadol â thelegraffiaeth ddi-wifr, neu am unrhyw resymau heblaw'r rhai a nodir yn eich trwydded neu reoliad eithriad trwydded.

Bydd Ofcom yn ystyried ymchwilio i gwynion sy'n gyfystyr ag ymyriant bwriadol (neu 'rwystro') neu ddefnyddio offer heb drwydded. Byddwn ond yn ymchwilio os ydym yn fodlon bod hynny'n rhesymol ar sail budd y cyhoedd. Wrth benderfynu a fyddwn yn ymchwilio ai beidio, byddwn yn ystyried:

  • nifer y bobl yr effeithir arnynt;
  • a oes dulliau cyfathrebu amgen ar gael;
  • hyd yr effaith;
  • pa mor ymarferol y mae i ddatgelu'r ffynhonnell; a
  • pha mor ddymunol y mae i gymryd camau gorfodi (h.y. a fyddem yn erlyn y troseddwr yn y pen draw).

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?