Fideo sy'n dangos cynnwys niweidiol arall

Mae Ofcom yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos (VSP) a sefydlir yn y DU. Gwasanaethau yw'r rhain sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho fideo neu eu rhannu â phobl eraill. Ymysg y VSP sydd o dan ein hawdurdodaeth mae:

  • Bitchute
  • FruitLab
  • OnlyFans
  • Recast Sports
  • Snapchat
  • TikTok
  • Triller
  • Twitch
  • Vimeo
  • VuePay

Mae rhestr lawn ar gael o'r VSP sydd wedi hysbysu Ofcom eu bod yn dod o dan ein hawdurdodaethavailable.

Ein tasg yw sicrhau bod gan VSP o dan ein hawdurdodaeth fesurau priodol ar waith i ddiogelu defnyddwyr rhag fideos:

  1. a allai amharu ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl dan 18 oed;
  2. sy'n debygol o annog trais neu gasineb yn seiliedig ar faterion penodol megis rhyw, hil, lliw croen, tarddiad ethnig neu gymdeithasol, nodweddion genetig, iaith, crefydd neu gred, barn wleidyddol neu unrhyw farn arall, aelodaeth o leiafrif cenedlaethol, eiddo, genedigaeth, anabledd, oedran neu dueddfryd rhywiol; ac/neu
  3. sy'n annog gweithredoedd o derfysgaeth yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol; sy'n dangos neu'n ymwneud â chynnwys y mae'n gyfystyr â cham-drin plant yn rhywiol; ac yn dangos neu'n ymwneud â chynnwys sy'n annog hiliaeth neu senoffobia.

Mwy o wybodaeth am sut rydyn ni'n rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos.

Pwysig: Os yw eich cwyn yn ymwneud â fideo sy'n dangos cam-drin neu gamfanteisio'n rhywiol ar blant, mae'n rhaid i chi beidio ag adrodd am y fideo i Ofcom. Yma gallwch weld sut i adrodd am y math hwn o fideo.

Os yw eich cwyn yn ymwneud â fideo sy'n dangos unrhyw un o'r materion eraill a fanylir uchod, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein ffurflen gwyno fer.

Er nad ydym yn ymateb i gwynion unigol, bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu'n helpu Ofcom i fonitro a yw VSP yn diogelu defnyddwyr yn ddigonol ac yn ein helpu ni i bennu a yw'n briodol cymryd camau rheoleiddio. Os ydych eisiau i fideo penodol gael ei ddileu, dylech adrodd amdano i'r llwyfan y cafodd ei hygyrchu ohoni.

Mae gwasanaethau ffrydio a dal i fyny wedi’u rhwymo wrth reolau ar wahân

Er bod gwasanaethau ar-alw a ffrydio ar-lein, rydyn ni’n eu rheoleiddio o dan reolau gwahanol. Gallwch gwyno i ni am rywbeth rydych chi wedi’i weld ar BBC iPlayer neu ar wasanaeth ar-alw arall.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?