Datganiad: Cod Cyfathrebiadau Electronig

  • Dechrau: 16 Mawrth 2017
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 20 Mawrth 2017

Ym mis Ebrill 2017 cafodd Bil yr Economi Ddigidol Gydsyniad Brenhinol gan ddau Dŷ’r Senedd, a daeth yn Ddeddf yr Economi Ddigidol. Ymysg pethau eraill roedd Deddf yr Economi Ddigidol yn diwygio’r ‘cod cyfathrebiadau electronig’ drwy gyflwyno amrywiaeth o fesurau i’w gwneud hi’n haws i weithredwyr rhwydweithiau gyflwyno seilwaith (fel mastiau ffôn, cyfnewidfeydd a chabinetau) ar dir cyhoeddus ac ar dir preifat. Mae’r diwygiadau i’r cod cyfathrebiadau electronig yn Neddf yr Economi Ddigidol yn amrywiol ac yn arbennig o arwyddocaol i weithredwyr rhwydweithiau, tirfeddianwyr a meddianwyr. Maen nhw’n cynnwys dyletswyddau newydd ar Ofcom i gyhoeddi:

  • Cod Ymarfer a fydd yn mynd gyda’r newidiadau i’r cod cyfathrebiadau electronig;
  • nifer o hysbysiadau templed y bydd yn rhaid i Weithredwyr y Cod a thirfeddianwyr/meddianwyr eu defnyddio neu y cânt eu defnyddio (bydd yn dibynnu ar yr amgylchiadau dan sylw); a
  • telerau safonol y bydd modd i weithredwyr y Cod a thirfeddianwyr neu feddianwyr eu defnyddio wrth drafod cytundebau i gyflwyno hawliau Cod (ond ni fydd angen iddynt wneud hynny).

Roedd Ofcom wedi paratoi fersiynau drafft o bob un o’r dogfennau y cyfeirir atyn nhw uchod ac wedi ymgynghori yn eu cylch, ac mae nawr yn cyhoeddi fersiynau terfynol y dogfennau hyn yn ogystal â datganiad.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Airwave (PDF File, 17.2 KB) Sefydliad
AP Wireless (PDF File, 162.2 KB) Sefydliad
Arqiva (PDF File, 83.4 KB) Sefydliad
Batcheller Monkhouse (PDF File, 20.2 KB) Sefydliad
CAAV (PDF File, 385.4 KB) Sefydliad