Datganiad: Cod Ymarfer Cyfathrebiadau Electronig

  • Dechrau: 12 Medi 2023
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 07 Tachwedd 2023

Datganiad wedi'i gyhoeddi: 15 Ebrill 2024

Mae’r Cod Cyfathrebiadau Electronig (‘y Cod’) yn rhoi hawliau penodol i ddarparwyr rhwydweithiau cyfathrebu electronig ac i ddarparwyr systemau seilwaith (a ddynodir gan Ofcom fel ‘Gweithredwyr Cod’) osod a chynnal cyfarpar cyfathrebiadau electronig ar, o dan a thros dir, gan gynnwys ar briffyrdd cyhoeddus, ac yn arwain at weithdrefnau cynllunio llawer symlach. Os na ellir dod i gytundeb â pherchennog neu feddiannydd tir preifat, mae’r Cod yn caniatáu i weithredwr wneud cais i’r llys i orfodi cytundeb sy’n rhoi’r hawl Cod sy’n cael ei geisio neu i’r Cod rwymo’r tirfeddiannwr neu’r deiliad.

Mae’r Cod hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Ofcom gyhoeddi, ymhlith pethau eraill, Cod Ymarfer mewn perthynas â chytundebau mynediad i dir preifat o dan y Cod. Ym mis Rhagfyr 2017 cyhoeddodd Ofcom God Ymarfer ar ôl ymgynghori â’r diwydiant.

Y llynedd, ymrwymodd Ofcom i adolygu’r Cod Ymarfer, a gwahoddodd yr NCA i gyfrannu at yr adolygiad hwn drwy gynnig set o ddiwygiadau drafft. A ninnau wedi ystyried argymhellion yr NCA yn ofalus, cyhoeddodd Ofcom Ymgynghoriad ym mis Medi 2023 a nododd ei chynigion ar gyfer diwygio’r Cod Ymarfer.

Ar ôl adolygu’r ymatebion i’r Ymgynghoriad hwn, mae Ofcom bellach wedi cyhoeddi ei Datganiad, sy’n cynnwys fersiwn terfynol o'r Cod Ymarfer. Mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi’r Cod Ymarfer fel dogfen ar wahân.

Mae’r Cod Ymarfer newydd a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys diwygiadau i God Ymarfer 2017, yn ogystal ag ychwanegu elfennau newydd yn unol â diweddariadau i’r Cod Cyfathrebiadau Electronig. Ychwanegiad newydd allweddol yw cynnwys testun ar y broses ar gyfer datrys anghydfodau a all godi rhwng Gweithredwyr a Darparwyr Safle ac yn benodol, arfer gorau mewn perthynas â gweithdrefnau Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau (ADR). Diben y testun hwn yw hwyluso'n effeithiol datrys anghydfodau sy'n codi a sicrhau bod offer telathrebu'n cael ei osod mor gyflym ac mor ddidrafferth â phosibl.


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
AllPointsFibre, CityFibre, Glide, Hyperoptic & Virgin Media O2 (PDF File, 166.1 KB) Sefydliad
AP Wireless (PDF File, 233.4 KB) Sefydliad
BT Group (PDF File, 102.8 KB) Sefydliad
CAAV (PDF File, 154.4 KB) Sefydliad
Cellnex UK (PDF File, 342.6 KB) Sefydliad