Ail ymgynghoriad: dyfodol rhifau ffôn

  • Dechrau: 23 Ebrill 2021
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 02 Gorffennaf 2021

Datganiad a gyhoeddwyd 11 Mawrth 2022

Mae Ofcom wedi penderfynu diwygio'r rheolau sy'n llywodraethu'r defnydd o rifau ffôn yn y DU, er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd y newidiadau mawrion sy'n digwydd yn rhwydweithiau'r wlad i ystyriaeth, ac yn parhau i hyrwyddo hyder defnyddwyr mewn gwasanaethau ffôn.

Mae galwadau ffôn yn wasanaeth hanfodol i lawer o bobl a busnesau. Fodd bynnag, mae'r ffordd yr ydym yn defnyddio ffonau'n newid. Mae cyfathrebiadau symudol ac ar-lein yn cynyddu, ac mae'r defnydd o linellau tir yn dirywio'n gyffredinol. Mae'r rhwydwaith llinellau ffôn tir yn y DU - y rhwydwaith cyfnewidfeydd ffôn cyhoeddus (PSTN) - yn dod tuag at ddiwedd ei fywyd ac yn cael ei ddisodli'n raddol. Dros y blynyddoedd i ddod, caiff galwadau llinell dir eu cludo'n gynyddol dros rwydweithiau Protocol Rhyngrwyd (IP) mwy modern, gyda gwasanaethau ffôn llinell dir yn cael eu cyflwyno'n gynyddol dros gysylltiadau band eang.

Yn erbyn y cefndir hwn, rydym wedi bod yn adolygu ein llyfr rheolau ar gyfer rhifau ffôn yn y DU - sef y Cynllun Rhifau Ffôn Cenedlaethol. Amlinellwyd ein hymagwedd arfaethedig at yr adolygiad hwn yn ein Hymgynghoriad Cyntaf yn 2019. Yn ein Hail Ymgynghoriad yn 2021, cyflwynwyd cynigion yn ymwneud â rhifau daearyddol, ac yn y ddogfen hon rydym yn nodi ac yn esbonio ein penderfyniadau.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
(Response to second consultation) 24 Seven (PDF File, 170.4 KB) Sefydliad
(Response to second consultation) aimm (PDF File, 141.8 KB) Sefydliad
(Response to second consultation) Aldington, M (PDF File, 131.4 KB) Ymateb
(Response to second consultation) Belcher, P (PDF File, 122.6 KB) Ymateb
(Response to second consultation) BT (PDF File, 312.8 KB) Sefydliad