Gwella mynediad defnyddwyr at wasanaethau symudol o 3.6GHz i 3.8GHz
- Dechrau: 06 Hydref 2016
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 01 Rhagfyr 2016
Mae'r ddogfen hon yn datgan sut mae Ofcom yn bwriadu ymestyn mynediad sbectrwm ar gyfer gwasanaethau symudol yn y dyfodol yn y band 3.6GHz i 3.8GHz. Mae'r DU a’r Undeb Ewropeaidd wedi nodi’r band hwn fel rhan o’r prif fand ar gyfer 5G.
Byddwn nawr yn dechrau’r broses ffurfiol i gynnig (i) diddymu trwyddedau cysylltiadau sefydlog yn y band 3.6 i 3.8 GHz a (ii) amrywio trwyddedau a dyfarniadau Mynediad Sbectrwm Cydnabyddedig ar gyfer gorsafoedd daear lloeren fel na fyddai Ofcom mwyach yn ystyried gorsafoedd daear lloeren cofrestredig gyda chydran derbyn yn y band at ddibenion rheoli amledd.
Byddwn nawr yn ysgrifennu at y rheini sy’n dal trwyddedau a dyfarniadau gan nodi ein cynigion; byddan nhw’n cael cyfle pellach i gyflwyno sylwadau cyn i ni wneud y penderfyniadau terfynol ynghylch trwyddedau unigol a grantiau RSA.
Rydym wedi cyhoeddi diweddariad yn rhoi manylion pryd rydym yn disgwyl y bydd sbectrwm ar gael yn y band 3.6GHz i 3.8GHz (PDF, 172.3 KB), yn dilyn y penderfyniadau rydym wedi eu gwneud fel rhan o’r broses statudol a ddisgrifir uchod.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Access Technologies.pdf (PDF File, 122.9 KB) | Sefydliad |
Arqiva.pdf (PDF File, 49.1 KB) | Sefydliad |
BBC.pdf (PDF File, 164.2 KB) | Sefydliad |
BT and EE.pdf (PDF File, 249.3 KB) | Sefydliad |
Cambium Networks.pdf (PDF File, 214.2 KB) | Sefydliad |