Ymgynghoriad: Moderneiddio Trwydded Weithredu'r BBC
- Dechrau: 22 Mehefin 2022
- Statws: Ar agor
- Diwedd: 14 Medi 2022
Dylai cynulleidfaoedd fod yn ganolog i weithgareddau’r BBC ac i waith rheoleiddio Ofcom ar y BBC. Fodd bynnag, mae’r hyn mae cynulleidfaoedd ei eisiau, a sut maen nhw’n gwylio ac yn gwrando ar gynnwys, yn newid.
Dylai gwaith rheoleiddio Ofcom alluogi’r BBC i ymateb i’r newid hwn mewn ymddygiad, gan ei ddal i gyfrif am gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus y mae Senedd y DU wedi cytuno arnynt. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ystyried sut mae angen diweddaru Trwydded Weithredu’r BBC i sicrhau ei bod yn dal yn effeithiol, nawr ac yn y dyfodol, ac mae’n nodi ein cynnig ar gyfer sut bydd Trwydded ddigidol aml-lwyfan, sydd wedi’i gwreiddio mewn darpariaeth ar gyfer cynulleidfaoedd, yn cyflawni hynny.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Anfonwch eich ymateb drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriadau
Prif ddogfennau
Ymatebion
Dim ymatebion i’w dangos.