Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Cynllun Blynyddol Arfaethedig 2017/18

  • Dechrau: 29 Tachwedd 2016
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 07 Chwefror 2017

Sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb

Mae Ofcom yn bodoli er mwyn sicrhau bod y marchnadoedd cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. I gyflawni hyn, rydym yn cynnig tri phrif nod: hyrwyddo cystadleuaeth a sicrhau bod marchnadoedd yn gweithio'n effeithiol ar gyfer defnyddwyr; sicrhau safonau a gwella ansawdd; a diogelu defnyddwyr rhag niwed. Mae ein Cynllun Blynyddol arfaethedig yn disgrifio rhai o'r meysydd gwaith allweddol y byddwn yn ceisio'u cyflwyno er mwyn cyflawni'r nodau hyn, ar draws y DU ac yn y gwledydd, yn 2017/18. Rydym hefyd yn disgrifio ein gwaith parhaus ehangach sy'n cefnogi'r nodau hyn, a sut y byddwn yn gweithio ar ran defnyddwyr ar draws gwledydd y DU.

Byddwn yn cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol terfynol ar gyfer 2017/18 ym mis Mawrth 2017. Bydd y Cynllun terfynol yn ystyried ymatebion gan randdeiliaid i'r Cynllun arfaethedig. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad yw 07 Chwefror 2017.

Cynllun Blynyddol Arfaethedig 2017/18 (PDF, 270.1 KB)

Mae Ofcom yn cynnal cyfarfodydd  cyhoeddus ar hyd a lled y DU i glywed barn pobl ynghylch ei Gynllun Blynyddol arfaethedig ar gyfer 2017/18.

Bydd y  cyfarfodydd yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb yn y gwaith o  reoleiddio’r marchnadoedd cyfathrebu i drafod dull gweithredu Ofcom. Bydd pob  cyfarfod yn dechrau gyda chyflwyniad byr, ac ar ôl hynny bydd cyfle i roi  sylwadau a gofyn cwestiynau.

Bydd  panel o arbenigwyr Ofcom ym mhob cyfarfod, gyda phob cyfarfod yn gyfarfod  agored, am ddim. Os hoffech ddod i ddigwyddiad,  atebwch drwy ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt isod.

Digwyddiad Cynllun Blynyddol Cymru

Dyddiad:  Dydd Mercher 31 Ionawr 2017
Amser: 11.30am  i 1:00pm
Lleoliad: Ofcom, Cymru, 2 Pentir Caspian, Ffordd Caspian, Caerdydd. CF10 4DQ
RSVP: cymru@ofcom.org.uk
029 2046 7217 [Cyswllt:  Elinor Williams]

Digwyddiad Cynllun Blynyddol Lloegr

Dyddiad: Dydd Iau 12  Ionawr 2017
Amser: 2:30pm i 3:30pm
Lleoliad: Ofcom,  Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, Llundain, SE1 9HA
RSVP: stakeholder.events@ofcom.org.uk
0300 123 3000 [Cyswllt: David Michels]

Digwyddiad Cynllun Blynyddol Gogledd Iwerddon

Dyddiad: Dydd  Mercher 18 Ionawr 2017
Amser: 12.00pm i  1:30pm
Lleoliad: Ystafell  155, Parliament Buildings, Stormont, BT4 3XX
RSVP: ofcomeventsni@ofcom.org.uk
028  9041 7500 [Cyswllt: Sinéad  Lee]

Digwyddiad Cynllun Blynyddol yr Alban

Dyddiad: Dydd Gwener  27 Ionawr 2017
Amser: 9.30am i 12.30pm
Lleoliad: Ofcom, 125 Princes Street, Caeredin EH2 4AD
RSVP:  Ofcom.Scotland@ofcom.org.uk
0131 220 7300 [Cyswllt: Debbie Hughes]


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
ACNI.pdf (PDF File, 125.4 KB) Sefydliad
AMES.pdf (PDF File, 14.3 KB) Sefydliad
BBC.pdf (PDF File, 25.7 KB) Sefydliad
BEIRG.pdf (PDF File, 162.8 KB) Sefydliad
BT.pdf (PDF File, 416.0 KB) Sefydliad