Datganiad: Rheoleiddio hysbysebu bwyd a diod llai iach
- Dechrau: 21 Chwefror 2023
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 21 Ebrill 2023
Datganiad wedi'i gyhoeddi 10 Gorffennaf 2023
Rhwng 21 Chwefror a 21 Ebrill 2023, ymgynghorodd Ofcom ar gynigion ar gyfer gweithredu cyfyngiadau statudol newydd ar hysbysebu a nawdd ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod llai iach.
Diwygiodd y Ddeddf Iechyd a Gofal - a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 28 Ebrill 2022 - Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 i gyflwyno cyfyngiadau newydd ar hysbysebu a nawdd ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod penodol sy'n uchel mewn braster, halen neu siwgr (HFSS). Mae'r cyfyngiadau newydd hyn yn berthnasol i hysbysebu ar wasanaethau rhaglenni teledu ac ar-alw ("ODPS") a reoleiddir gan Ofcom a hefyd ar-lein.
Mae'r cyfyngiadau'n:
- gwahardd gwasanaethau teledu rhag cynnwys hysbysebu a nawdd ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod llai iach rhwng 5.30am a 9pm;
- gwahardd gwasanaethau ODPS rhag cynnwys hysbysebu a nawdd ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod llai iach rhwng 5.30am a 9pm; ac yn
- gwahardd hysbysebion y telir amdanynt ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod llai sydd wedi'u hanelu at ddefnyddwyr y DU, rhag cael eu rhoi ar-lein ar unrhyw amser.
Daw'r cyfyngiadau i rym o 1 Hydref 2025.
Ofcom yw'r rheoleiddiwr statudol sydd â chyfrifoldeb dros hysbysebu ar y teledu ac ODPS. Roedd ein hymgynghoriad yn cynnig:
- dynodi'r Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASA) yn gyd-reoleiddiwr ar gyfer y gwaharddiad newydd ar hysbysebu cynhyrchion bwyd a diod llai iach mewn gofodau ar-lein y telir amdanynt; a
- diwygio Cod y Pwyllgor Arfer Hysbysebu Darlledu (BCAP) a'r Cod Darlledu i adlewyrchu'r cyfyngiadau newydd sy'n berthnasol i hysbysebu a nawdd ar y teledu.
Mae'r datganiad hwn yn crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn nodi ein casgliadau.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Advertising Association (PDF File, 173.6 KB) | Sefydliad |
Bite Back 2030 (PDF File, 151.7 KB) | Sefydliad |
British Heart Foundation (PDF File, 236.6 KB) | Sefydliad |
British Retail Consortium (PDF File, 120.6 KB) | Sefydliad |
Coca-Cola GB (PDF File, 178.2 KB) | Sefydliad |