Ymgynghoriad: Rhifau personol – Adolygiad o'r ystod rhifau 070

  • Start: 06 December 2017
  • Status: Open
  • End: 28 February 2018

Datganiad a gyhoeddwyd 1 Hydref 2018

Mae rhifau 070 wedi’u dylunio i gael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau personol neu ‘dilynwch fi’. Pan fydd rhywun yn ffonio rhif 070, mae ei ddarparwr cyfathrebiadau yn talu ffi derfynu gyfanwerthol i ddarparwr y gwasanaeth 070 er mwyn i’r alwad gyrraedd y derbynnydd. Mae'r galwr wedyn yn wynebu pris adwerthu gan ei ddarparwr cyfathrebiadau am wneud yr alwad honno.

Fel rhan o'r Adolygiad o Gost Galwadau, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2017, cynhaliwyd adolygiad o rifau 070 yn edrych ar y gost o alw rhifau 070 a’r camddefnydd cyson o’r rhifau hyn.  Gwelsom fod darparwyr cyfathrebiadau sy'n dal rhifau 070 yn gallu gosod cyfraddau terfynu cyfanwerthol uchel ar gyfer galwadau sy’n cael eu gwneud i'w rhifau. Mae hyn yn niweidio defnyddwyr gan ei fod yn arwain at brisiau adwerthu uchel. Ar y cyfan, nid yw defnyddwyr yn gallu gwahaniaethu rhwng rhifau 070 a galwadau sy’n cael eu gwneud i rifau symudol (sy’n dechrau gyda ‘07x’ ac yn rhatach o lawer i'w ffonio), gan arwain at ‘sioc biliau’. Ar ben hynny, mae’r cyfraddau terfynu cyfanwerthol uchel yn gymhelliant i gamddefnyddio’r rhifau 070 yn dwyllodrus. Mae hyn wedi cyfrannu at enw drwg yr ystod rhifau 070.

Yn y datganiad hwn rydym yn nodi ein penderfyniad terfynol ar sut y byddwn yn rheoleiddio rhifau 070.


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
AIMM (PDF File, 539.7 KB) Sefydliad
Atlas Interactive Group Limited (PDF File, 101.8 KB) Sefydliad
BT (PDF File, 655.1 KB) Sefydliad
Digital Mail (PDF File, 79.3 KB) Sefydliad
Eurecom (PDF File, 685.0 KB) Sefydliad