Adolygu’r broses o Reoleiddio'r Post Brenhinol

  • Dechrau: 25 Mai 2016
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 03 Awst 2016

Mae'r ddogfen hon yn cloi ein hadolygiad o’r broses o reoleiddio’r Post Brenhinol. Cafodd yr adolygiad ei gynnal i sicrhau bod y broses reoleiddio yn dal yn briodol ac yn ddigonol i sicrhau bod y gwasanaeth post cyffredinol yn cael ei ddarparu mewn ffordd effeithlon ac mewn ffordd sy’n gynaliadwy’n ariannol.

Ar ôl cyhoeddi dogfen drafod ym mis Gorffennaf 2015, roeddem wedi cyhoeddi ymgynghoriad ym mis Mai 2016 a oedd yn nodi ein cynigion o ran y fframwaith rheoleiddio ar gyfer gwasanaethau post yn y dyfodol. Wrth baratoi'r datganiad hwn, rydym wedi ystyried ymatebion rhanddeiliaid i’r naill ddogfen a’r llall.

Mae’r ddogfen hon yn nodi ein penderfyniad ynghylch y fframwaith rheoleiddio ar gyfer gwasanaethau post yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar bum prif faes:

  • Cynnal dull rheoleiddio sy’n cydnabod y gostyngiad strwythurol mewn llythyrau a marchnad parseli sy’n dod yn fwy cystadleuol, ac ymestyn y fframwaith rheoleiddio am bum mlynedd arall;
  • Cefnogi cystadleuaeth ac arloesedd yn y sector parseli;
  • Tynhau’r rheolau ar gystadleuaeth mynediad;
  • Gwneud yn siŵr bod y broses o reoleiddio diogelwch eitemau post yn canolbwyntio ar feysydd priodol, a sicrhau canlyniadau da i ddefnyddwyr; a
  • Sicrhau bod yr holl amodau rheoleiddio’n dal yn briodol ac yn addas i’r diben.

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r fframwaith rheoleiddio newydd ar waith ar unwaith, ac eithrio’r Amod Mynediad newydd ar gyfer y Darparwr Gwasanaeth Cyffredinol. Daw i rym ar 1 Ebrill 2017 er mwyn rhoi cyfle i’r Post Brenhinol wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i’w drefniadau masnachol.

Ar ben hynny, yn dilyn adborth gan y rheini a ymatebodd i’r ymgynghoriad, rydym wedi penderfynu diwygio ein cynnig gwreiddiol o ran y Cod Ymarfer ar gyfer Gweithdrefnau Gweithredol Cyffredin y Post (PCOP). Rydym yn amlinellu cynnig newydd yn y ddogfen hon, ac yn gofyn am ymatebion ynghylch hyn erbyn 3 Ebrill 2017. I ymateb i’n cynnig newydd, cwblhewch y ffurflen ymateb ar waelod y dudalen.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Association of International Courier Express Services.pdf (PDF File, 379.0 KB) Sefydliad
BBC Licence Fee Unit response to PCOP consultation (PDF File, 110.5 KB) Sefydliad
BBC Licence Fee.pdf (PDF File, 52.2 KB) Sefydliad
CFH.pdf (PDF File, 208.6 KB) Sefydliad
Citizens Advice.pdf (PDF File, 273.2 KB) Sefydliad