Map Ffordd Sbectrwm: Cyflwyno Strategaeth Rheoli Sbectrwm Ofcom

  • Dechrau: 31 Mawrth 2022
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 20 Mai 2022

Mae'r sbectrwm radio (y tonnau anweladwy sy'n galluogi technoleg ddi-wifr) yn adnodd meidraidd sy'n hanfodol i gyflwyno ystod eang o gymwysiadau di-wifr y gall gwahanol ddefnyddwyr elwa ohonynt, ac mae gan Ofcom y dasg o sicrhau y caiff ei ddefnyddio er budd pennaf pawb yn y DU. Saif yr ymagwedd hon wrth wraidd cenhadaeth Ofcom i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb

Mae gan gyfathrebiadau di-wifr ran gynyddol bwysig i'w chwarae ar draws sawl sector yn yr economi – gan ddarparu ein newyddion, ein cysylltu â ffrindiau a theulu, awtomeiddio ffatrïoedd, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a monitro'r amgylchedd naturiol.

Mae datblygiadau technolegol yn galluogi cymwysiadau a modelau busnes newydd ac arloesol, sy'n golygu bod mwy o bobl a sefydliadau yn defnyddio technoleg ddi-wifr. Yn wyneb y cynnydd hwn ac, mewn llawer o achosion, y galw cystadleuol am sbectrwm, amlinellodd Ofcom Strategaeth Rheoli Sbectrwm newydd ym mis Gorffennaf 2021.

Yn y Map Ffordd Sbectrwm hwn rydym yn amlinellu'r gwaith rydym yn bwriadu ei gyflawni ar y strategaeth hon, drwy ein prosiectau presennol (fel yr amlinellir yng Nghynllun Gwaith 2022-23) a thrwy feysydd gwaith arfaethedig yn y dyfodol.

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi fersiwn wedi'i ddiweddaru o'i Fap Ffordd Sbectrwm. Mae'r ddogfen hon yn cadarnhau ein bwriad i fwrw ymlaen â'r meysydd newydd o waith sy'n gysylltiedig â sbectrwm a gynigiwyd gennym yn y ddogfen drafod Map Ffordd  Sbectrwm ym mis Mawrth 2022. Bydd y meysydd gwaith newydd hyn yn ein galluogi i gyflwyno'r weledigaeth ar gyfer rheoli sbectrwm a nodir yn ein Strategaeth Rheoli Sbectrwm. Rydym hefyd wedi cyhoeddi atodiad sy'n crynhoi ymatebion i'n dogfen drafod.


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Advisory Committee for Scotland (PDF File, 179.9 KB) Sefydliad
Apple, Broadcom, Cisco, HPE, and Meta (joint response) (PDF File, 137.5 KB) Sefydliad
Association of Professional Wireless Production Technologies (PDF File, 753.0 KB) Sefydliad
BEIRG (PDF File, 146.1 KB) Sefydliad
Better Media (PDF File, 119.7 KB) Sefydliad