Datganiad: Dyfodol plwraliaeth y cyfryngau yn y DU

  • Dechrau: 15 Mehefin 2021
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 10 Awst 2021

Datganiad wedi'i gyhoeddi 17 Tachwedd 2021

Mae'r ffyrdd y mae defnyddwyr a dinasyddion yn rhyngweithio â chyfryngau newyddion wedi newid yn ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf. Mae technoleg newydd wedi galluogi pobl i ymgysylltu â newyddion mewn ffyrdd na ellid eu darogan o'r blaen ac mae wedi herio modelau busnes sefydliadau cyfryngau newyddion traddodiadol. Yn erbyn y cefndir hwn, erys plwraliaeth y cyfryngau'n gonglfaen i gymdeithas ddemocrataidd sy'n gweithredu'n dda.

Mae'n ddyletswydd statudol ar Ofcom i sicrhau a chynnal plwraliaeth ddigonol o ddarparwyr gwasanaethau teledu a radio gwahanol. Mae'n ddyletswydd arnom hefyd i adolygu gweithrediad y rheolau perchnogaeth ar y cyfryngau a restrir o dan adran 391 Deddf Cyfathrebiadau 2003, bob tair blynedd. Mae'r datganiad hwn yn nodi ein hargymhellion gan ddilyn ein hadolygiad diweddaraf o'r rheolau hynny.

Ochr yn ochr â'r adolygiad o'r rheolau, ym mis Mehefin 2021, gwnaethom lansio rhaglen waith – gan ddechrau gyda chais am dystiolaeth – i ddeall pa effaith y gallai newidiadau yn y farchnad ar gyfer newyddion ei olygu ar gyfer plwraliaeth y cyfryngau, gan edrych y tu hwnt i'r rheolau perchenogaeth ar y cyfryngau presennol.

Yn y datganiad hwn, rydym yn amlinellu crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd, ein myfyrdod ar yr ymatebion hynny a'n camau nesaf.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Blunkett, Lord D (PDF File, 88.1 KB) Ymateb
Craufurd Smith, Dr R (PDF File, 159.6 KB) Ymateb
DMG Media (PDF File, 709.8 KB) Sefydliad
Google (PDF File, 226.0 KB) Sefydliad
Guardian Media Group (PDF File, 628.1 KB) Sefydliad