Gwella mynediad sbectrwm ar gyfer Wi-Fi – Defnyddio sbectrwm yn y bandiau 5 a 6 GHz

  • Dechrau: 17 Ionawr 2020
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 20 Mawrth 2020

Datganiad 24 Gorffennaf 2020

Mae sbectrwm yn darparu’r tonnau radio sy’n cefnogi gwasanaethau di-wifr a ddefnyddir bob dydd, gan gynnwys Wi-Fi. Rydym wedi adolygu ein dull o ymdrin â sbectrwm er mwyn diwallu’r galw yn y dyfodol, mynd i’r afael â’r heriau presennol sy’n gysylltiedig ag arafwch a thagfeydd ar yr un pryd â galluogi rhaglenni newydd ac arloesol. Mae modd defnyddio rhai bandiau sbectrwm radio argyfer Wi-Fi heb fod angen trwydded, mewn geiriau eraill, ar sail esemptiad trwydded.

Mae mwy a mwy o bobl a busnesau yn y DU yn defnyddio gwasanaethau di-wifr i gefnogi gweithgareddau bob dydd, ac mae rhaglenni newydd yn gwthio’r galw am ddarpariaeth sy’n gyflymach ac yn fwy dibynadwy. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein penderfyniadau i newid ein rheoliadau presennol i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Ein penderfyniad – yn gryno:

  • Darparu’r band is 6 GHz (5925-6425 MHz) ar gyfer Wi-Fi a thechnolegau RLAN eraill
  • Bydd rhyddhau’r sbectrwm hwn hefyd yn golygu bod modd defnyddio pŵer isel iawn (VLP) yn yr awyr agored.
  • Tynnu’r gofynion Dewis Amledd Dynamig (DFS) o sianeli a ddefnyddir gan Wi-Fi yn y band 5.8 GHz (5725-5850 MHz)

Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Broadcom (PDF File, 176.6 KB) Sefydliad
BT (PDF File, 185.0 KB) Sefydliad
Cisco (PDF File, 319.5 KB) Sefydliad
CommScope (PDF File, 144.3 KB) Sefydliad
Cropley, Mr L (PDF File, 162.1 KB) Ymateb