Adolygiad o’r Farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol (WLA): Ymgynghori ynghylch cynigion prisiau atebion ar gyfer mynediad i Bolion a Phibellau

  • Dechrau: 01 Awst 2017
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 12 Medi 2017

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dilyn ein Hadolygiad Strategol o Gyfathrebiadau Digidol; a’r ‘Ymgynghoriad ar atebion ar gyfer mynediad i Bolion a Phibellau’ (“Ebrill 2017 Ymgynghoriad DPA”) a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill 2017 fel rhan o’n hadolygiad i’r farchnad mynediad lleol cyfanwerthol (WLA).

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â mynediad i bolion a phibellau Openreach. Yn ein Hymgynghoriad DPA ym mis Ebrill 2017, gwnaethom nodi ein cynigion a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i Openreach roi mynediad i seilwaith, gan gynnwys ar gyfer beth y gellid defnyddio hyn a sut y dylai hyn weithio o ran proses. Yn ogystal â hynny, aethom ati i nodi ein cynigion cyffredinol ynghylch sut y gellid pennu ffioedd rhentu a sut byddai'r costau yn cael eu hadennill, gan ddweud y byddem yn rhoi mwy o fanylion yn yr haf. Mae’r ymgynghoriad hwn yn datblygu mwy ar y cynigion hyn o ran prisiau.

Erbyn hyn, rydym wedi nodi ein cynigion prisiau manwl ar osod ffioedd rhentu, y terfyn ariannol ar gyfer adennill costau addasu rhwydwaith, a newidiadau i ofynion adroddiadau ariannol rheoleiddio. Mae’r cynigion hyn yn rhan o’n hadolygiad o'r farchnad mynediad lleol cyfanwerthol ac mae'r ymgynghoriad hwn yn ategu ein Hymgynghoriad DPA ym mis Ebrill 2017

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 12 Medi 2017.

Ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Anfonwch eich ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ymatebion ymgynghoriadau (RTF, 1.4 MB).


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BUUK (PDF File, 353.2 KB) Sefydliad
CityFibre (PDF File, 339.3 KB) Sefydliad
Flomatik (PDF File, 547.6 KB) Sefydliad
Hyperoptic (PDF File, 1.0 MB) Sefydliad
Openreach (PDF File, 1.1 MB) Sefydliad