Datganiad: Egwyddorion ar gyfer ymwybyddiaeth o'r cyfryngau drwy ddylunio

  • Dechrau: 31 Hydref 2023
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 18 Rhagfyr 2023

Datganiad wedi'i gyhoeddi 19 Ebrill 2024

Gwnaethom wahodd rhanddeiliaid i'n helpu deall beth yw ymwybyddiaeth dda o'r cyfryngau 'trwy ddylunio' ar gyfer gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol, chwilio, rhannu fideos a chwarae gemau.

Mae gan Ofcom ddyletswydd gyfreithiol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Gall sgiliau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau cryfion helpu pobl i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein yn feirniadol, yn ddiogel ac yn effeithiol.

Yn ogystal â'n gwaith sy'n helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau'n uniongyrchol, rydym hefyd wedi edrych ar sut y gall llwyfannau helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am yr hyn maen nhw'n ei wneud ar-lein.

Rydym wedi awgrymu rhai egwyddorion cyffredin ar gyfer sut y gall cwmnïau o bob maint ddylunio eu gwasanaeth mewn ffordd sy'n hyrwyddo ac yn cefnogi llythrennedd digidol eu defnyddwyr. Nid yw'r egwyddorion hyn yn gynhwysfawr nac yn gyfreithiol rwymol, ond gallwch eu hystyried yn arfer gorau.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
5Rights Foundation (PDF File, 260.5 KB) Sefydliad
Antisemitism Policy Trust (PDF File, 147.1 KB) Sefydliad
Branded Content Governance Project, University of the Arts London (PDF File, 215.0 KB) Sefydliad
Childnet International (PDF File, 164.5 KB) Sefydliad
Department of Sociology & Criminology, City, University of London (PDF File, 179.8 KB) Sefydliad