Datganiad: Ansawdd gwasanaeth ar gyfer ether-rwyd a ffeibr tywyll

Cyhoeddwyd: 14 Gorffennaf 2023
Ymgynghori yn cau: 24 Awst 2023
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi’i gyhoeddi 30 Hydref 2023

Yn yr Adolygiad o’r Farchnad Telathrebu Sefydlog Cyfanwerthol, canfuom fod gan BT Rym Sylweddol yn y Farchnad (SMP) mewn amrywiol farchnadoedd, gan gynnwys y farchnad ar gyfer cyflenwi mynediad llinellau ar log (LL) yn Ardal Mynediad LL 2, Ardal Mynediad LL 3, LLA HNR3 a’r farchnad ar gyfer cyflenwi IEC mewn cyfnewidfeydd BT Only a BT+1. Mae hyn yn golygu, na fyddai Openreach o bosib yn derbyn signalau’r farchnad gan gwsmeriaid sy’n newid i gystadleuwyr yn y marchnadoedd hynny, heb reoleiddio, a bod diffyg cymhellion iddo arloesi a chyflawni’r Ansawdd Gwasanaeth sydd ei angen ar gwsmeriaid.

Ym mis Gorffennaf, gwnaethom gynnig addasu’r safon Ansawdd Gwasanaeth mewn perthynas ag atgyweirio cynnyrch Ether-rwyd a Ffeibr Tywyll a’r dangosyddion perfformiad allweddol cysylltiedig. Bwriad y newidiadau arfaethedig hyn oedd bod y safonau perthnasol a’r adrodd cysylltiedig yn adlewyrchu newidiadau i’r cyfuniad diffygion ac i ddarparu cymhelliant i Openreach atgyweirio diffygion a oedd yn fwy anodd eu hatgyweirio.

Rydym wedi penderfynu cadw’r mesur ‘atgyweirio ar amser’ presennol am weddill y cyfnod hwn o adolygu’r farchnad telathrebu sefydlog cyfanwerthol.

Mae’r penderfyniadau a wnaed gennym, ynghyd â’n rhesymau, wedi’u nodi yn y datganiad isod.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Ethernet Standard Modification Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA
Yn ôl i'r brig