Datganiad: Adolygiad o'r rheolau o ran amlygrwydd BBC Three

  • Dechrau: 16 Medi 2021
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 14 Hydref 2021

Datganiad wedi'i gyhoeddi 25 Tachwedd 2021

Heddiw, rydym wedi cymeradwyo  ail-lansio BBC Three fel sianel ddarlledu. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu ein penderfyniad y dylai'r sianel ddarlledu BBC Three gael ei lleoli o fewn 24 slot cyntaf Canllawiau Rhaglenni Electronig (‘EPG’) gan gynnwys y rhai ar Sky, Virgin Media O2, Freeview a Freesat.

Mae'n ddyletswydd ar Ofcom i lunio, adolygu a diwygio Cod Ymarfer (y Cod EPG (PDF, 233.7 KB)) ar gyfer darparwyr trwyddedig canllawiau teledu ar y sgrin – a elwir yn EPG. Mae hyn yn sicrhau ymhlith pethau eraill, y fath gyfradd o amlygrwydd y mae Ofcom yn ei ystyried yn briodol ar gyfer y sianeli gwasanaeth cyhoeddus (y sianeli 'dynodedig') – gan gynnwys Sianeli'r BBC – i sicrhau eu bod yn hawdd ddod o hyd iddynt a'u gwylio. Yn dilyn adolygiad diweddar, daeth Cod EPG newydd i rym ym mis Ionawr 2021.

Bydd BBC Three yn mynd yn sianel ddynodedig o dan ddarpariaethau Deddf Cyfathrebiadau 2003 ('y Ddeddf'), ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau lefel briodol o amlygrwydd i'r sianel o fewn EPGau pob darparwr trwyddedig.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BBC (PDF File, 136.5 KB) Sefydliad
COBA (PDF File, 188.0 KB) Sefydliad
Name withheld 1 (PDF File, 221.8 KB) Sefydliad
Scott, I (PDF File, 176.7 KB) Ymateb
Sky (PDF File, 2.9 MB) Sefydliad