Datganiad: Newidiadau i'n fframwaith ar gyfer asesu perfformiad y BBC

  • Dechrau: 25 Mai 2023
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 23 Mehefin 2023

Datganiad wedi'i gyhoeddi 18 Gorffennaf 2023

Bu i ni ymgynghori rhwng 25 Mai a 23 Mehefin 2023 ynghylch newidiadau arfaethedig i'r fframwaith mesur perfformiad (FfMP) a ddefnyddiwn i asesu perfformiad y BBC wrth gyflawni ei Chenhadaeth a hyrwyddo ei Dibenion Cyhoeddus.

Yn yr ymgynghoriad bu i ni ddweud bod y pedwar mesur sy'n ffurfio'r FfMP yn parhau'n gadarn ac yn addas at y diben, ond y dylid gwneud newidiadau bach i sicrhau bod y FfMP yn parhau'n briodol ar gyfer y dyfodol.

Wrth gyrraedd ein penderfyniadau rydym wedi ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus. Rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â'n newidiadau arfaethedig i'r FfMP.

Mae'r gweithdrefnau ar gyfer diwygio'r FfMP wedi cael eu hailgyhoeddi heb eu newid.

Y  Fframwaith Rheoli Perfformiad (PDF, 182.8 KB)


Prif ddogfennau


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.