Digwyddiadau sydd wedi’u rhestru – Pencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad
- Dechrau: 19 Ebrill 2017
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 17 Mai 2017
Mae Ofcom wedi rhoi caniatâd i geisiadau gan y BBC ac ITV i wneud darllediadau byw ecsgliwsif o Bencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad yn 2018, 2019, 2020 a 2021.
Fe wnaethom ymgynghori ar y ceisiadau yn ystod mis Ebrill a mis Mai 2017 (https://www.ofcom.org.uk/consultations-and-statements/category-3/listed-events-six-nations-rugby-union-championship).
Cafodd Ofcom un ymateb gan S4C i ddweud (PDF, 173.4 KB), darllediadau byw nad ydynt yn ecsgliwsif o holl gemau Cymru yn y twrnamaint yn yr iaith Gymraeg. Ni fynegodd unrhyw un arall ddiddordeb ac ni chafwyd unrhyw ymatebion eraill yn gwrthwynebu’r cynnig.
Ar ôl ystyried canlyniad yr ymgynghoriad a'r wybodaeth a ddarparwyd gan y BBC ac ITV i gefnogi eu cais, mae Ofcom wedi penderfynu caniatáu i’r BBC ac ITV wneud darllediadau byw ecsgliwsif.
Mae Ofcom wedi cael ceisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddarlledu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2018, 2019, 2020 a 2021 yn fyw yn egsgliwsif (‘y digwyddiadau’).
Bydd y digwyddiadau’n cael eu darlledu ar ITV (gemau cartref Lloegr, Iwerddon a’r Eidal) a naill ai ar BBC One neu ar BBC Two (gemau cartref Cymru, yr Alban a Ffrainc). Ar ben hynny, mae gan y BBC hawliau darlledu byw cenedlaethol ar y radio ar gyfer yr holl gemau yn y twrnamaint.
Mae gemau’r Chwe Gwlad sy’n cynnwys gwledydd y DU yn Ddigwyddiadau wedi’u Rhestru Grŵp B o dan Ddeddf Darlledu 1996. Yn unol ag adran 101 o Ddeddf Darlledu 1996, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos y digwyddiadau hyn yn fyw yn egsgliwsif. Mae'r rheolau perthnasol wedi eu nodi yn y Cod ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill.
Os hoffai partïon sydd â diddordeb gyflwyno unrhyw sylwadau ynghylch y ceisiadau, dylid anfon y rhain i Ofcom yn y cyfeiriad isod, drwy e-bost neu lythyr erbyn 17 Mai 2017. Oni ofynnir am gyfrinachedd, bydd yr holl sylwadau yn cael eu darparu ar wefan Ofcom ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.