Datganiad: Cynigion y BBC ar gyfer BBC Radio Cymru 2
- Start: 16 November 2023
- Status: Open
- End: 14 December 2023
Datganiad wedi'i gyhoeddi: 18 Ionawr 2024
Mae'r BBC wedi cynnig ymestyn nifer yr oriau Cymraeg gwreiddiol a gynigir gan BBC Radio Cymru 2 fel y bydd yn dod yn wasanaeth cyhoeddus newydd yn y DU.
Yn unol â gofynion Cytundeb Siarter a Fframwaith y BBC, ein rôl ni yw asesu effaith cynigion y BBC ar gystadleuaeth ac ystyried a yw'r gwerth cyhoeddus yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau andwyol yr ydym yn eu nodi. Mae'r datganiad hwn yn esbonio ein penderfyniad terfynol y gall y BBC symud ymlaen â'i gynnig a'n penderfyniad i osod amodau Trwydded Gweithredu ar y gwasanaeth.
Prif ddogfennau
Mae'r BBC wedi cynnig ymestyn nifer yr oriau Cymraeg gwreiddiol a gynigir gan BBC Radio Cymru 2 fel y bydd yn dod yn wasanaeth cyhoeddus newydd yn y DU. Yn unol â gofynion Siarter a Chytundeb y BBC, gwnaethom gynnal asesiad cystadleuaeth byrrach o'i gynnig. Rydym yn ymgynghori ar ein casgliad dros dro y gall y BBC fwrw ymlaen â'i gynnig ochr yn ochr â thri Amod Trwydded Weithredu ar gyfer y gwasanaeth newydd, os caiff ei gymeradwyo.
Prif ddogfennau
Ofcom's approach to the competition assessment (PDF, 206.6 KB)